En

AAT Uned Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£458.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
21 Hydref 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Hyd

Hyd
13 wythnos

Yn gryno

Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.

Yr uned rydych chi'n ei phrynu yma yw Cyfrifeg Ariannol: Uned Paratoi Datganiadau Ariannol Diploma lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg.

Mae'r uned hon yn darparu’r sgiliau a fydd eu hangen arnoch i gynhyrchu datganiadau elw neu golled a datganiadau o sefyllfa ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau drwy’r defnydd o falans prawf. Pan fyddwch mewn cyflogaeth, efallai bydd gofyn i chi baratoi cyfran, neu bob rhan, o'r cyfrifon terfynol, a bydd yr uned hon yn darparu'r wybodaeth ddamcaniaethol sydd ei hangen arnoch i gwblhau'r dasg honno. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddeall sut y cynhyrchir cyfrifon terfynol, naill ai â llaw neu'n awtomatig trwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu.

 

Byddwch yn ennill y sgiliau cadw cyfrifon mynediad dwbl a fydd eu hangen i gofnodi trafodion ariannol yng nghyfrifon sefydliad, gan ddefnyddio system cadw cyfrifon â llaw. Bydd y rhain yn cael eu cario ymlaen i wneud addasiadau, gan sicrhau y bydd y cyfrifon yn cydymffurfio â sail croniadau cyfrifyddu. Byddwch yn deall dibrisiant, lle adlewyrchir colled gwerth ased anghyfredol yn ystod cyfnod penodol yn y ffigur elw ar gyfer y cyfnod hwnnw. Byddwch hefyd yn dysgu i gyfrif am lwfansau ar gyfer asedau derbyniadwy amheus lle ystyrir y tebygolrwydd na fydd yr holl gwsmeriaid credyd yn talu yn llawn. Mae'r addasiadau hyn yn cael eu gwneud yn rheolaidd gan gyflogwyr er mwyn sicrhau bod cyfrifon yn darparu golwg fwy cywir ar broffidioldeb a sefydlogrwydd ariannol y sefydliad.

Trwy ddatblygu ymwybyddiaeth o sut mae'r cyfrifon terfynol yn cael eu defnyddio, a chan bwy, byddwch yn dod i ddysgu sut i gynhyrchu cofnodion cyfrifyddu defnyddiol, weithiau o wybodaeth anghyflawn. Byddwch yn dysgu am fformat y datganiad o elw neu golled a'r datganiad o sefyllfa ariannol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio'ch sgiliau cadw cyfrifon mynediad dwbl i ddadansoddi a chywiro gwallau a wnaethpwyd yn y cyfriflyfrau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wirio cywirdeb y balansau ar gyfrifon allweddol o fewn y system gyfrifyddu drwy gario allan cysoniadau â dogfennau annibynnol, megis cyfriflenni banc. Bydd cymarebau cyfrifyddu i gael mynediad at broffidioldeb unig fasnachwyr hefyd yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn eich galluogi i ddehongli datganiadau ariannol yn fwy effeithiol.

Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).

Mae’r cwrs hwn yn dilyn cwrs Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 a bydd yn eich galluogi chi i ennill sgiliau pellach ym maes cyfrifyddu.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg

… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg

… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.

Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:

  • Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
  • Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
  • Technegau Cyfrifo Rheolaeth - Byddwch yn dod i ddeall y pwrpas a’r defnydd o gyfrifo rheolaeth ac yn dysgu'r technegau costio a thaenlen sy’n angenrheidiol ar gyfer sefydliadau, yn ogystal â'r egwyddorion y tu ôl i reoli arian parod.
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW

Drwy wneud cais yma rydych yn prynu Cyfrifeg Ariannol: Modiwl Paratoi Datganiadau Ariannol.

Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

Gofynion Mynediad

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg

neu

  • Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ar:

Ddydd Llun 9yb tan 5yh (rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Neu

Ddydd Llun 5yh tan 6yh a dydd Mawrth 6yh tan 9yh (yn rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.

Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs Cadw Llyfrau Lefel 3, gallwch chi symud i’r cwrs AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu drwy gwblhau’r ddwy uned ychwanegol – Ymwybyddiaeth Busnes a Thechnegau Cyfrifeg Rheolaeth.

Costau eraill:

Llyfrau tua £30 y modiwl

Cofrestriad AAT (yn daladwy i AAT) £240

Ble alla i astudio AAT Uned Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol Lefel 3?

NCDI0066DB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 21 Hydref 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr