YMCA Diploma mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd) - A 2 Elfen Ychwanegol Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Dydd Mawrth a Dydd Iau
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
I ddilyn y cwrs hwn bydd rhaid i chi feddu ar Dystysgrif Lefel 2 ddilys mewn Hyfforddiant Campfa
Yn gryno
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr â chymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Campfa neu gyfwerth sydd yn dymuno symud ymlaen i yrfa fel Hyfforddwr Personol proffesiynol ar sail gyflogedig neu hunan-gyflogedig.
Cymeradwyir y cymhwyster hwn gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).
Dyma'r cwrs i chi os...
- Unrhyw un sydd yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 dilys mewn Hyfforddiant Campfa
- Y rheini sydd am ennill y wybodaeth i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs yn cwmpasu amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau i'ch helpu chi i symud ymlaen fel hyfforddwr personol cyflogedig neu hunan-gyflogedig. Mae'r cynnwys yn adlewyrchu'r galluoedd sy'n angenrheidiol i ddod yn hyfforddwr personol diogel ac effeithiol.
Nod y cymhwyster hwn yw nodi'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd sy'n ofynnol ar gyfer unigolyn i weithio fel hyfforddwr personol heb oruchwyliaeth. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gynnig hyfforddiant un-i-un, asesiadau gwaelodlin, cyngor ar faeth a rhaglennu cynyddol sy'n benodol i anghenion unigol y cleient.
Bydd y cwrs yn cwmpasu:
- Anatomeg a ffisioleg gymhwysol
- Hyrwyddo llesiant trwy gymell a rhyngweithio â chleientiaid
- Dylunio rhaglen ymarfer corff deilwredig
- Hyfforddiant a thechnegau cyfathrebu ar gyfer rhaglenni ymarfer corff teilwredig
- Maethiad i gynnal gweithgarwch corfforol
- Craffter busnes ar gyfer ymarfer hyfforddiant personol
Cynhelir asesiadau trwy amrywiaeth o foddau megis:
Arholiad theori aml-ddewis, llyfr gwaith asesu, portffolio hyfforddiant personol arddangosol (5 elfen) a chwblhau log dysgwyr.
Yn ogystal â Diploma YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd), byddwch chi hefyd yn ennill dau gymhwyster ychwanegol, sef:
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Cyfarwyddo Hyfforddiant Pwysau Tegell
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Cyfarwyddo Ymarfer Corff Grŵp (Cerdded er Ffitrwydd)
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau, gallwch chi ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel platfform i symud ymlaen i gyrsiau eraill yn y sectorau iechyd a ffitrwydd neu hamdden actif.
Gall dysgwyr ddewis cymwysterau eraill ar yr un lefel, megis:
- Diploma Lefel 3 mewn Cyfeirio Ymarfer Corff
- Diploma Lefel 3 mewn Cynyddu Cyfranogiad mewn Chwaraeon a Hamdden Actif mewn Gosodiadau Cymunedol
- Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon
- Diploma Lefel 3 mewn Addysgu Pilates
- Diploma Lefel 3 mewn Addysgu Yoga
- Cymwysterau Lefel 3 sydd yn ymwneud â phoblogaethau arbennig
- Prentisiaeth mewn Hyfforddiant Personol
Gall dysgwyr hefyd ddewis symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch, megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Cyflwyno Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Chyflyrau Iechyd Meddwl
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rhaglennu Gweithgarwch Corfforol i Unigolion â Phoen Cefn Isel
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli Pwysau i Unigolion â Gordewdra, Diabetes, Mellitus, a/neu Syndrom Metabolaidd
- Cymwysterau Lefel 4 mewn Chwaraeon a Chyflyru
UPDI0337AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr