En

Agored Diploma mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â’r Byd Gwaith Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mathemateg ar lefel sylfaenol (o leiaf Mynediad 3) a Saesneg (o leiaf Lefel 1). Hefyd, byddwch chi wedi ennill gradd basio neu uwch ar gyfer Diploma Lefel 1.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cefnogi ac yn grymuso dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd trwy’r cymhwyster.

Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a gofynion cyflogwyr a bod gan gyflogwyr gyflogeion sy’n bodloni eu safonau a’u disgwyliadau.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych chi’n chwilio am waith a hoffech chi ddatblygu set sgiliau mwy amrywiol.

...rydych chi wedi bod allan o’r byd addysg ers o leiaf 2 flynedd a hoffech chi symud i gyrsiau ar lefel uwch.

...rydych chi’n benderfynol o lwyddo a hoffech chi wella eich sgiliau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod y cwrs hwn yw gwella eich gallu i gyflwyno cais am waith. Yn ogystal â dysgu yn y gweithle, byddwch chi hefyd yn dysgu am:

  • Entrepreneuriaeth a mentergarwch
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Cynllunio gyrfa
  • Perfformiad yn y gweithle
  • Gweithio gyda phobl eraill
  • Iechyd a Diogelwch
  • TGCh yn y Gweithle

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd pob darpar fyfyriwr yn dod i gyfweliad ac yn cael ei asesu cyn cynnig lle iddo.

Mae agwedd benderfynol i lwyddo ac angerdd am ddysgu yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd angen ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, yn ogystal â dangos parch at bawb, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant.

Bydd disgwyl i chi fynd ar leoliad gwaith fel rhan o’r cwrs hwn.

Byddwch chi’n cael eich asesu’n barhaus trwy bortffolio a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn, bydd modd i chi symud i gyflogaeth neu gwrs arall yn Coleg Gwent.

Ble alla i astudio Agored Diploma mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â’r Byd Gwaith Lefel 2?

PFDI0640AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr