En

VTCT Therapi Harddwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith.

Yn gryno

Bydd Diploma Lefel 3 VTCT mewn Triniaethau Therapi Harddwch yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch a bydd yn eich cefnogi i ennill gwaith.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych wedi cymhwyso mewn Therapi Harddwch ar Lefel 2

... ydych am ddatblygu gwybodaeth arbenigol

... ydych chi'n gweithio'n galed ac mae gennych bersonoliaeth gyfeillgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch
  • Triniaethau electrotherapi i’r wyneb
  • Triniaethau electrotherapi i’r corff
  • Tylino'r Corff
  • Gwelliannau Ewinedd a Thechnegau Celf Ewinedd Llaw Uwch
  • Technegau Lliw Haul i’r croen
  • Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw
  • Gofal Cwsmeriaid
  • Iechyd a Diogelwch
  • Anatomeg a Ffisioleg

Byddwch yn dysgu drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg wrth weithio ar gleientiaid
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Gwaith grŵp
  • Lleoliad gwaith - naill ai bob wythnos neu ar floc

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:

  • Cystadlaethau o fewn y coleg
  • Ysbrydoli Sgiliau Cymru a'r DU/World Skills
  • Diwrnodau sba
  • Arddangosiadau diwydiant ar driniaeth laser/IPL
  • Ymweliadau a theithiau i arbenigwyr yn y diwydiant
  • Rolau goruchwylio yn yr adran a rheoli colofnau therapyddion

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau a phrofion amlddewis ar-lein a fydd yn mynd dros yr hyn sy’n tanategu gwybodaeth. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 3 VTCT mewn Triniaethau Therapi Harddwch (Technegol)
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith. Rhaid i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar.

Cynhelir pob dosbarth ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle mae'n bosib y bydd gofyn i chi fynychu'r coleg tan 7.30yh.

Mae profiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn rhan orfodol o'r cwrs, ac mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith a gweithio ar gleientiaid yng nghlinigau harddwch y campws. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau Therapi Harddwch Lefel 3 yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i wneud cais:

  • Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol a Sba neu’r Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gofal Iechyd Cyflenwol
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Estheteg (Plicio Croen, Nodwyddo Croen, Dermaplanio (Dermaplaning) a Micro-lafnio (Micro-blading) ar gyfer Aeliau)
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Colur Theatrig a'r Cyfryngau

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg y mae'n rhaid ei gwisgo ar gyfer pob sesiwn ymarferol. Mae hwn yn ofyniad gorfodol
  • Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wyneb 
  • Dim tyllu corff
  • Ni ellir gwisgo unrhyw emwaith heblaw modrwy briodas yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, a fydd yn costio tua £198, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

 

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu ac maent yn amodol ar newid.

 

Ble alla i astudio VTCT Therapi Harddwch Lefel 3?

CFDI0445AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr