En

City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw, Gosodiadau a Chomisiynu Peirianneg Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

· Cymhwyster Lefel 2 City & Guilds mewn mecanwaith sydd, yn ddelfrydol, wedi ymdrin â chynnwys hydrolig a niwmatig

· Neu, brofiad digonol mewn diwydiant a sgiliau i adeiladu arnynt (i’w cytuno arnynt fel gofyniad mynediad cymwys gan arweinydd y cwrs).

Yn gryno

Mae’r cwrs Lefel 3 hwn, sydd wedi’i achredu gan City & Guilds, yn adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ar Lefel 2. Mae’n berffaith ar gyfer technegwyr cynnal a chadw mewn amgylcheddoedd peirianneg neu’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

Rydych chi’n rhan o waith cynnal a chadw cyfarpar peiriannol mewn amgylcheddoedd peirianneg, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys ymchwilio i wallau ac atgyweirio mecanweithiau a systemau hydrolig a niwmatig.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch chi’n dysgu am:

· Iechyd a diogelwch peirianneg

· Egwyddorion peirianneg

· Egwyddorion cynnal a chadw, gosodiadau a chomisiynu peirianneg

· Cynnal a chadw systemau peiriannau

· Cynnal a chadw systemau hydrolig

· Cynnal a chadw systemau niwmatig

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Disgwylir y bydd gennych chi feddylfryd peiriannydd proffesiynol yn yr amgylchedd dysgu. Disgwylir i chi weithio’n ddiogel a meddu ar agwedd frwd at ddatrys problemau a dysgu.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallech chi symud ymlaen i ddiwydiant neu gwrs HNC (yn amodol ar gymwysterau a phrofiad)

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyniad i chi wisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer pob agwedd ymarferol ar eich cwrs yn ystod amgylchedd y gweithdy.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw, Gosodiadau a Chomisiynu Peirianneg Lefel 3?

CFDI0629AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr