YMCA Diploma mewn Addysgu Pilates Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
22 Mehefin 2024
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
4 wythnos
Yn gryno
Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Addysgu Pilates (Ymarferydd) yn cynnwys y sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n ofynnol gan unigolyn i weithio mewn swydd heb oruchwyliaeth i gynllunio, cyfarwyddo a gwerthuso sesiwn Pilates ddiogel ac effeithiol.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol (CIMSPA).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd fel Hyfforddwr Pilates.
Cynnwys y cwrs
Ymhlith y modiwlau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs mae:
- Deall egwyddorion a hanfodion Pilates.
- Sut i gynllunio a gweithredu sesiwn Pilates ar gyfer grwpiau ac unigolion.
- Sut i gynnal sesiwn Pilates.
Gofynion Mynediad
Rhagofynion dysgwyr - mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau'r unedau canlynol cyn dechrau'r cwrs:
- Anatomeg Gymhwysol a Ffisioleg Lefel 3 (Ôl 2018).
- Rheoli Ffordd o Fyw ac Ymwybyddiaeth Iechyd Lefel 2.
- Darparu Profiad Cwsmer Cadarnhaol yn yr Amgylchedd Ymarfer Corff Lefel 2.
Gwybodaeth Ychwanegol
Addysgir y cwrs gan ddarlithwyr Pilates cymwys.
Cyflwynir y cwrs hwn dros 7 diwrnod (ar y penwythnosau fel arfer).
Mae'n caniatáu i ddysgwyr gael mynediad i REPs ar Lefel 3.
UCDI0602AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 22 Mehefin 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr