City & Guilds Diploma mewn Ffitio Cerbydau’n Gyflym Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerbydau Modurol
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Dydd Llun a Dydd Mercher a Dydd Iau
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:00
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
Cwblhau'r Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau yn llwyddiannus gyda phroffil Teilyngdod a chwblhau'r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol yn llwyddiannus.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys amrediad llawn o weithdrefnau cyffredinol yn ymwneud â gwaith ffitio cerbydau. Mae’n darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer ffitwyr cerbydau sy’n gweithio ar gerbydau mewn pob mathau o garejis, delwriaethau a busnesau ffitio cyflym.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn mecaneg cerbydau
... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cludiant – Cerbydau Ysgafn
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle ichi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol yn ymwneud â rhai o’r canlynol:
- Archwilio, trwsio a newid teiars cerbydau ysgafn perfformiad uchel.
- Alinio olwynion blaen cerbydau ysgafn.
- Archwilio a newid clytshis cerbydau ysgafn, cydrannau peipiau mwg, siocleddfwyr, batris cerbydau a systemau brecio.
- Asesu sefyllfaoedd ar ymylon ffyrdd a sicrhau eu bod yn ddiogel.
Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o iechyd a diogelwch yn y gweithle, sut i gytuno ar ofynion cerbydau cwsmeriaid a sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â gweithio mewn garej.
Fel rhan o’r cwrs byddwch hefyd yn cwblhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru a chymwysterau’n ymwneud â Saesneg a Mathemateg.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, portffolios ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma IMI Lefel 2 mewn Egwyddorion Ffitio Cerbydau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os na chawsoch Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Ffitio Cerbydau gyda phroffil Teilyngdod a bod wedi cwblhau’r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol yn llwyddiannus.
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, oherwydd bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur yn ofynnol a disgwylir ichi gadw at ethos y coleg.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn.
- Mynd yn eich blaen at brentisiaeth neu waith addas.
- Gwaith yn y diwydiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:
- Hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.
- Bydd angen ichi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun, fel esgidiau ac oferôls, a darparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPDI0523AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr