En

VTCT Diploma mewn Adweitheg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£1080.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
18:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi chi i ychwanegu technegau ychwanegol at y triniaethau yn eich repertoire presennol wrth ddatblygu ymhellach eich gwybodaeth am y damcaniaethau a'r arferion cymhwyso adweitheg ar lefel uwch.

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i roi'r wybodaeth hanfodol i'ch cynorthwyo chi i ddarparu sgiliau therapiwtig uwch mewn lleoliad clinigol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sy'n therapyddion cyflenwol cymwys
  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Adweitheg gan gynnwys Anatomeg a Ffisioleg.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn astudio technegau adweitheg uwch gorfodol gan gynnwys llaw, clust, wyneb, adweitheg mamolaeth ar bob cam, ffrwythlondeb, y naw mis o feichiogiad a’r cyfnod ar ôl beichiogrwydd, gofal lliniarol a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, rheoli poen, darllen traed a dehongliadau emosiynol a thechnegau arbenigol eraill. Byddwch chi’n astudio ystod o gymwysiadau megis adweitheg feridian, technegau therapi parthau i facsimeiddio dealltwriaeth a manwl gywirdeb mewn arferion gweithio.

Mae’r unedau a gwmpesir yn cynnwys:

  • Sgiliau rhyngbersonol
  • Anatomeg a Ffisioleg Uwch
  • Technegau Adweitheg Uwch

Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i arwain cyflogaeth mewnamrywiaeth o rolau, naill ai'n hunangyflogedig, mewn clinig therapi cyflenwol, cyfleusterau harddwch neu sba neu bractis preifat. Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at gyflogaeth mewn ysbyty, hosbis neu amgylcheddau gofal iechyd eraill.

Cynhelir asesiad trwy bortffolio o dystiolaeth, arsylwadau ymarferol ac astudiaethau achos (cofnod o 36 triniaeth).

 

Gofynion Mynediad

Rhaid i chi fod yn therapydd cyflenwol cymwysedig ar Lefel 3.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd yn ofynnol i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.

Mae’r ffioedd cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae’r ffioedd tiwtoriaeth yn ddyledus ar adeg archebu/ymrestru. Os bydd angen, gall hyn fod trwy ddebyd uniongyrchol, dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad o hyn mewn ysgrifen i’r coleg allu gwneud trefniadau i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod yn gallu darparu cleientiaid addas fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes


Mae triniaeth adweitheg yn costio rhwng £50 a £75 yr awr a llai os ydych yn cynnig cwrs o driniaethau.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Adweitheg ar gyfer y Therapydd Cyflenwol Lefel 4?

CPDI0505AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr