Lantra Diploma Nyrsio Milfeddygol – Practis Anifeiliaid Bychain Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£617.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
08:30
Amser Gorffen
18:00
Hyd
74 wythnos
Yn gryno
Os ydych yn barod i gychwyn hyfforddi fel nyrs milfeddygol bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa yn darparu gofal nyrsio i anifeiliaid gwael eu hiechyd. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, byddwch yn gymwys i gofrestru ar y rhestr nyrsys milfeddygol*.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rheiny sydd yn mwynhau gofalu am anifeiliaid
...unrhyw un sydd yn gweithio mewn milfeddygfa ar gyfer anifeiliaid bach
...hyfforddi fel nyrs milfeddygol
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs wedi ei ddylunio i roi'r cyfle i chi ennill cymhwysedd nyrsio ymarferol clinigol yn seiliedig ar wybodaeth greiddiol am ymarfer nyrsio milfeddygol er mwyn datblygu eich gyrfa filfeddygol. Yna, gallwch ddod yn gymwys i gael eich cofrestru ar y rhestr nyrsys milfeddygol*. Bydd arbenigwyr yn y maes gofal anifeiliaid a nyrsio milfeddygol yn cynnal darlithoedd gwadd, a byddwch yn cymryd rhan mewn fforymau trafod a gwaith grwp.
Bydd angen i chi ymrwymo'n llwyr i fynychu'r coleg am un diwrnod yr wythnos am gyfnod o 36 wythnos y flwyddyn am 2 flynedd, ac i astudio yn ystod eich amser personol. Cewch eich asesu drwy:
- Beirnidaeth grwp
- Prosiectau
- Portffolio gwaith
- Cyflwyniadau
- Adroddiadau
- Arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig
Wedi cwblhau hyn, byddwch yn ennill Diploma Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 LANTRA, ac yna byddwch yn gymwys i gofrestru fel nyrs milfeddygol*.
*Byddwch yn gymwys i ymuno â Chofrestr Nyrsys Milfeddygol Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) ac yn nyrs milfeddygol gwbl gymwys unwaith y byddwch wedi cwblhau'r Diploma Nyrsio Milfeddygol Lefel 3, log datblygiad nyrsio'r RCVS, arholiadau clinigol LANTRA sydd wedi eu strwythuro yn ôl amcanion, ac wedi cwblhau log o 1800 awr yn eich practis hyfforddi.
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) ac o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.
Rydych hefyd angen bod yn gweithio mewn milfeddygfa ar gyfer anifeiliaid bach - os nad yw eich lleoliad chi yn Bractis Hyfforddi, byddwn yn gweithio gyda nhw i ennill statws Practis Hyfforddi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw:
Blwyddyn 1 = £617 (yn cynnwys £325 Ffi Cofrestru Dysgwr a ffioedd ardystio diploma LANTRA, £202 Ffi Cofrestru Myfyriwr Nyrs Filfeddygol RCVS, £45 Ffi Arholiad MCQ Ar-lein Cais Cyntaf x 2)
Blwyddyn 2 = £415 (yn cynnwys £310 o Ffi OSCE, £35 Ffi Arholiad MCQ Ar-lein Cais Cyntaf x 3)
Codir yr un gyfradd ar y Dysgwr am geisiadau dilynol am £35 o Ffi Arholiad MCQ Ar-lein a'r OSCE.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UCDI0476AB
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr