En

City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Technoleg Drydanol ac Electronig) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Yn gryno

Bydd y Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg yn eich galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol mewn peirianneg drydanol ac electronig.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn drydanol ac electroneg

...Rydych chi'n weithgar ac yn ymroddedig

...Rydych chi am ddilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol

Beth fyddaf yn ei wneud?

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid ichi gwblhau amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol, yn cynnwys:

  • Gweithio’n ddiogel yn amgylchedd y byd peirianneg
  • Egwyddorion Technoleg Beirianegol
  • Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol
  • Cynnal a chadw systemau weirio trydanol
  • Egwyddorion technoleg drydanol ac electronig
  • Weirio a phrofi cylchedau trydanol
  • Adeiladu, profi a chanfod diffygion mewn cylchedau electronig

Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau’n seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, portffolios, asesiadau labordy ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg – Technoleg Drydanol ac Electronig
  • Bagloriaeth Cymru (cliciwch yma i gael manylion)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd C a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Lefel 1 priodol.

Bydd angen ichi fod â sgiliau rhifedd, bod yn greadigol a bod â diddordeb ysol mewn peirianneg drydanol neu electronig. Disgwyliwn hefyd ichi fod â hunangymhelliant, a bod yn weithgar, yn brydlon ac yn ymrwymedig.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Peirianneg – Technoleg Drydanol ac Electronig
  • Symud yn eich blaen at Brentisiaeth addas neu waith fel technegydd Trydanol neu Electronig.
  • Gwaith yn y diwydiant

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Peirianneg (Technoleg Drydanol ac Electronig) Lefel 2?

CFDI0463AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr