City & Guilds Llwybr i’r Dyfodol
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
04 Tachwedd 2024
Hyd
27 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, gellir cael mynediad drwy gyfeiriad a thrafodaeth ar gyngor ac arweiniad.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cefnogi unigolion sy’n dymuno datblygu’r sgiliau a’r agweddau a werthfawrogir gan gyflogwyr ac a ystyrir yn hanfodol er mwyn llwyddo mewn astudiaethau pellach.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn 16-19 oed
... Nad ydych mewn cyflogaeth nac addysg ar hyn o bryd
... Hoffech ddatblygu sgiliau a magu hyder er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth, addysg bellach neu brentisiaeth.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn mynychu’r coleg am 18 awr yr wythnos. Yn ystod yr amser hwnnw, byddwch yn astudio ar gyfer ystod o gymwysterau yn dibynnu ar eich sgiliau a’ch dysg flaenorol, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd. Bydd sesiynau profi mewn meysydd galwedigaethol yn rhan bwysig o’r rhaglen.
Bydd y cwrs hwn yn eich darparu gyda’r hyder a’r sgiliau i’ch helpu i wneud cynnydd. Os ydych yn awyddus i barhau i astudio ar ôl 16 oed, os oes gennych rwystrau rhag dysgu posibl neu heb fod yn siwr o’ch llwybr galwedigaethol dewisol, gall y cwrs hwn ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth sy’n gwneud eich siwrnai yn ôl i addysg neu gyflogaeth yn gliriach.
Mae’r cymwysterau a fydd yn cael eu hastudio yn cynnwys Cyflogadwyedd Lefel 1 neu 2, Llythrennedd, Rhifedd a Sesiynau Profi Galwedigaethol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol; ceir mynediad drwy drafodaeth ynghylch cyngor ac arweiniad, ac atgyfeiriad.
Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd a hunangymhelliant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch symud ymlaen i ystod eang o gyrsiau galwedigaethol llawn amser.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae modd ymuno â’r rhaglen hon unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn amodol ar atgyfeiriad neu drafodaeth gyda thiwtoriaid perthnasol
EPDI0449AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Tachwedd 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr