En

BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Trydanol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys:

  • TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig

Yn gryno

Mae’r Rhaglen Beirianneg Uwch amser llawn hon yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith go iawn a’r cyfle i symud ymlaen i brentisiaeth noddedig lawn. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, a bod ag awydd cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg, gan fod dilyniant o'r cwrs hwn yn brentisiaeth.

Byddwch yn cael eich asesu trwy asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, arddangosiadau, portffolios ac arsylwadau. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith o leiaf 5 wythnos.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol

... Ydych yn dda am ddatrys problemau

... Ydych yn weithgar ac yn llawn cymhelliant

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno’n llawn amser dros gyfnod o 36 wythnos am 30 awr yr wythnos ar gampws y coleg. Ceir rhwng 5 wythnos (150 awr) a 12 wythnos o leoliad profiad gwaith. Byddwch yn ymweld â nifer o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.

Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Mathemateg
  • Egwyddorion electronig trydanol
  • Rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy
  • Dyfeisiadau electronig
  • Gwaith gosod trydanol
  • Technoleg drydanol
  • Electroneg analog
  • Peiriannau trydanol

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, arddangosiadau, portffolios ac arsylwi. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Lefel 3 mewn Peirianneg (Trydanol)
  • Lefel 2 PEO (Sefydliad Cyflogwr Proffesiynol) – 6 uned a ddewisir i ategu gofynion penodol y diwydiant

Beth a ddisgwylir ohonof i?

 I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 5 TGAU Gradd C neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg, B mewn Mathemateg a thair Gradd C arall, yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant peirianneg yn ofynnol, gan y bydd y cwrs hwn yn arwain at Brentisiaeth. Disgwylir i bawb gadw at ethos y coleg a bod yn barod i gymryd rhan mewn o leiaf 5 wythnos o leoliad gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Prentisiaeth neu waith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Rhaglen Beirianneg Uwch – Trydanol Lefel 3?

CVDI0412AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr