En

City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.

Yn gryno

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau trydanol a phlymio sylfaenol yn ogystal â’r wybodaeth i’w hategu. Byddwch yn cael goruchwyliaeth wrth i chi gyflawni gweithgareddau ymarferol amrywiol ac ar sail gwybodaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

 ...hoffech chi gael cyflwyniad i Osodiadau Trydanol er mwyn arwain at astudio ar gyrsiau uwch

...hoffech chi feithrin sgiliau trydanol

...hoffech chi gwrs sy’n hynod ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am gyflwyniad i blymio a’r diwydiant trydanol sydd am gyflawni cwrs a fydd yn llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau a gwybodaeth graidd ynghyd â rhoi cyfle i chi symud naill ai i’n cwrs Lefel 2 Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol neu ein cwrs Lefel 2 Dilyniant mewn Plymio. Mae’r cymhwyster yn galluogi defnyddwyr i ddatblygu eu:

  • Gwybodaeth, sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn gosodiadau trydanol a phlymio
  • Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw'n newid, neu wedi newid, dros amser;
  • Deall y masnachau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ynghlwm wrth bob cam;
  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth o’r technolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o ran sut mae’r rhain yn berthnasol i, ac yn bwysig yn, y gweithle a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth o, a’r gallu i, gymhwyso’r egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch lles a’r amgylchedd;
  • Cyflawnir y cwrs drwy sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy ardderchog a gwersi theori er mwyn ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein.

Unwaith y byddwch wedi gorffen, byddwch wedi cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Astudio ar gymhwyster Lefel 2, symud ymlaen yn eich masnach ddewisol, cyflogaeth neu brentisiaeth ar Lefel 3.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol Lefel 2?

EFDI0397AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr