En

EAL Dilyniant mewn Plymio a Gwresogi Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Cwrs Lefel 2 (Sylfaen) mewn Astudiaethau Plymio, Unedau Craidd o gwrs Adeiladu Lefel 2 a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd C neu uwch.

Yn gryno

Mae’r cwrs Plymio Lefel Cynnydd yn rhoi mewnweediad eang, ond manwl, i chi ar waith a sgiliau plymer. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at yrfa fel plymer yn y diwydiant adeiladu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rhai sydd eisiau gyrfa fel plymer

... Rhai sydd eisiau mynd ymlaen i astudio cymhwyser Lefel 3 mewn Plymio

... Rhai sydd eisiau ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol am blymio

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Astudiaethau Plymio yn cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth i safon uchel sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant.

Byddwch yn dysgu sut i ddelio gyda pheipiau sy’n gollwng, a systemau dwr a draenio yn ein gweithdai llawn offer.

Byddwch yn astudio nifer o unedau yn ystod y cwrs, yn cynnwys:

  • Egwyddorion gwyddonol ar gyfer plymio domestig, diwydiannol a masnachol
  • Prosesau plymio cyffredin
  • Systemau dwr oer
  • Systemau dwr poeth domestig
  • Glanweithdra
  • Systemau gwres canolog
  • Systemau draenio

Cyflwynir y cwrs trwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen City and Guilds  Lefel 2 gradd sylfaen mewn Plymio a, naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Astudiaethau Plymio, gallwch ddatblygu eich sgiliau ymhellach gyda prentisiaeth ar Lefel 3, neu gwrs Sylfaen Nwy, neu Lefel 3 Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu Lefel 3 Peirianneg Sifil.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Dilyniant mewn Plymio a Gwresogi Lefel 2?

EFDI0361AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr