En

City & Guilds Diploma mewn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Atgyweirio a Phaent Wedi Damwain, neu Ddiploma Lefel 1 Cyfwerth, a TGAU gradd D neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnegol ac academaidd am dechnoleg cerbydau.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Ydych wedi cwblhau Lefel 1 neu Lefel Mynediad 3 mewn egwyddorion paent
...Oes gennych brofiad yn y diwydiant ailorffen cerbydau
...Ydych eisiau ehangu eich sgiliau a’ch gwybodaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs yn barhad o’r cwrs llawn amser yn y flwyddyn gyntaf ar gyrff cerbydau ac ailorffen cerbydau, ac mae’n rhoi sylw mwy manwl i ailorffen. Byddwch yn ymdrin â thaenu paent 2K, deunyddiau seiliedig ar ddwr a deunyddiau seiliedig ar bethau eraill, a hefyd byddwch yn ystyried gwahanol dechnegau taenu, fel technegau trwsio llecynnau bach, technegau ymdoddi a thechnegau ‘rhedeg i mewn’.

Byddwch yn ymdrin ag unedau’n ymwneud â’r canlynol:

  • Gwybodaeth am iechyd a diogelwch
  • Gwybodaeth am gymorth ar gyfer rolau swyddi
  • Gwybodaeth am offer a chyfarpar a ddefnyddir i ailorffen cerbydau
  • Gwybodaeth am ddefnyddio deunyddiau llenwi a chôt sylfaen
  • Gwybodaeth am weithio gyda phlastigau
  • Gwybodaeth am baratoi arwynebau metel ac arwynebau wedi’u paentio
  • Gwybodaeth am drwsio mân ddiffygion ar arwynebau paent

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gwaith realistig
  • Darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth sylfaenol
  • Aseiniadau

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng asesiadau ymarferol ac asesiadau ar-lein, cwestiynau llafar a chwestiynau ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Lefel 2 mewn Trwsio Difrod Damweiniau – Egwyddorion Paent
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

  • 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
  • Diploma lefel 1 addas a TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)

Beth sy'n digwydd nesaf?

Lefel 3 mewn Egwyddorion Paent, gwaith yn y diwydiant modurol neu Brentisiaeth mewn Trwsio Cyrff Cerbydau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch angen Cyfarpar Diogelu Personol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Atgyweirio Damweiniau (Egwyddorion Paent) Lefel 2?

NFDI0283AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr