En

City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau
Ysgafn a chwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg
i Radd C.

Yn gryno

Mae cerbydau a'u systemau cysylltiedig yn dod
yn fwy cymhleth yn gyson. Mae technoleg cerbydau
modern sy'n datblygu'n gyson yn gofyn am
dechnegwyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol i
ganfod namau ar y cerbydau hyn. Bydd y cwrs
hwn yn rhoi technegau diagnostig amrywiol i
ddysgwyr a'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud
diagnosis o namau ar gerbydau modern.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau

... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol

... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac â diddordeb ysol mewn cerbydau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a’i fwriad yw diwallu elfen ddamcaniaethol y cwrs VCQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn. Mae hefyd yn diwallu gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Uwch Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn).

Byddwch yn cwblhau 8 modiwl trwy gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol, gan astudio unedau fel:

  • Iechyd, diogelwch a threfniadau da yn yr amgylchedd modurol
  • Cymorth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd modurol
  • Deunyddiau, dulliau saernïo, offer a dyfeisiadau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
  • Diagnosio a chywiro diffygion trydanol ategol mewn cerbydau
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn injans cerbydau ysgafn
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn systemau siasis cerbydau ysgafn
  • Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a diffygion llinellau gyriant mewn cerbydau ysgafn
  • Archwilio cerbydau ysgafn trwy ddefnyddio dulliau penodol

Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
  • Cymhwyster/cymwysterau ategol priodol pan fo’n berthnasol i deilwra cynnwys y rhaglen er mwyn diwallu anghenion penodol y gymuned, eich anghenion penodol chi neu anghenion penodol y diwydiant.
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ddilyn y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, a hefyd mae’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn ofynnol. Dylech fod â dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, dylech gadw at ethos y coleg a dylech fod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Tystysgrif IMIAL Lefel 4 mewn Astudiaethau Modurol Uwch ar gyfer Prif Dechnegwyr
  • Prentisiaeth addas
  • Gwaith fel technegydd beiciau modur

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3?

CFDI0213AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr