En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Coginio Proffesiynol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Gall prentisiaid arlwyo wella eu sgiliau uwch mewn paratoi a choginio bwyd y gwnaethant ddysgu ar y cwrs lefel 2. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â detholiad eang o feysydd, megis diogelwch bwyd, rheoli adnoddau a pharatoi prydau cig, llysiau a dofednod cymhleth. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...prentisiaid sydd â phrofiad o weithio mewn cegin

...rheiny sydd eisiau gwella'r sgiliau y gwnaethant ddysgu ar y cwrs lefel 2

...rheiny sydd eisiau rhoi cynnig ar sgiliau a phrydau cymhleth

Cynnwys y cwrs

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 56 credyd; 17 credyd o'r grwp gorfodol a'r 39 credyd sy'n weddill o unrhyw grwp dewisol.

 

Gorfodol

 

  • Datblygu cysylltiadau gweithio cynhyrchiol gyda chydweithwyr
  • Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
  • Cynnal iechyd, hylendid, a diogelwch yr amgylchedd gweithio

 

Dewisol A

 

  • Paratoi pysgod ar gyfer prydau cymhleth
  • Paratoi cig ar gyfer prydau cymhleth
  • Paratoi dofednod ar gyfer prydau cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau pysgod cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau cig cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau dofednod cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau llysiau cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso sawsiau poeth cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso dresins a sawsiau oer
  • Paratoi cregynbysgod ar gyfer prydau cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau cregynbysgod cymhleth
  • Coginio a blasuso prydau helgig cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso cawliau cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau pasta ffres cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso cynnyrch bara a thoes cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso teisennau, sbyngau, bisgedi a sgonau cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau crwst cymhleth
  • Paratoi, prosesu a blasuso cynnyrch siocled cymhleth
  • Paratoi, prosesu a blasuso cynnyrch marsipán, pastillage a siwgr
  • Paratoi, coginio a chyflwyno cynnyrch oer cymhleth
  • Paratoi, blasuso a chyflwyno cynnyrch canapés a choctels
  • Paratoi, coginio a blasuso pwdinau poeth cymhleth
  • Paratoi, coginio a blasuso pwdinau oer cymhleth
  • Cynhyrchu sawsiau, llenwadau a chaenau ar gyfer pwdinau cymhleth
  • Coginio prydau iachach
  • Cyfrannu at reoli adnoddau
  • Cyfrannu at ddatblygu ryseitiau a bwydlenni
  • Sicrhau y dilynir arferion diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth
  • Paratoi helgig ar gyfer prydau cymhleth

 

 

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'w helpu nhw ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'u dysgu, gwaith a bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

Cymhwyso Rhif

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu

 

Siarad a gwrando

Darllen

Ysgrifennu

 

 

Asesiadau

 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle lle bydd aseswr yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau ar gynnydd. Noder, bydd gofyn i brentisiaid gwblhau unrhyw waith theori a osodir gan yr asesydd cyn eu hymweliad.

 

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio mewn swydd berthnasol i astudio'r diploma hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs fel arfer yn cymryd 91 wythnos i'w gwblhau. Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudioPrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

 

Mae'r rhaglen wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Coginio Proffesiynol Lefel 3?

CODI0200AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr