En

CBAC Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I ymrestru ar y cwrs hwn, bydd angen:

  • o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf;
  • neu gymhwyster Diploma priodol ar Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol a gwblhawyd ar radd MM; bydd angen dangos ymrwymiad i astudiaethau yn eich prif raglen a dangos cynnydd mewn Mathemateg a Saesneg,

Rhaid i ddysgwyr ar Lefel 1 sy'n symud ymlaen ennill gradd MM ac wedi dangos dilyniant ac ymgysylltiad â Sgiliau (Llythrennedd/Rhifedd).

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau gofal plant. Byddwch yn astudio unedau ar ymarfer gofal plant, twf a datblygiad, iechyd a diogelwch, chwarae a gweithgareddau creadigol, sydd yn gysylltiedig â deddfwriaethau cyfredol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych am weithio gyda phlant a phobl ifainc
... Ydych am ddilyn cymwysterau pellach mewn disgyblaeth gysylltiedig
... Ydych am adeiladu ar wybodaeth a sgiliau cyfredol ym maes gofal plant.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Trwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn magu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifainc o enedigaeth hyd at 19 oed. Bydd yn cwmpasu ystod amrywiol o rolau swydd a meysydd galwedigaethol, gan eich paratoi ar gyfer gweithio mewn lleoliadau plant, gan gynnwys blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Cyfuniad o theori ac ymarfer yw’r cwrs. Byddwch yn treulio tridiau’r wythnos yn y coleg yn datblygu gwybodaeth ac elfennau damcaniaethol y cymhwyster, a dau ddiwrnod yr wythnos mewn lleoliad gwaith (ynghyd â lleoliadau ‘bloc’ lle bo angen) yn ennill profiad ymarferol o weithio gyda phlant a phobl ifainc.

Bydd y cwrs yn datblygu gwybodaeth bynciol a chewch eich asesu ar wahanol gymwyseddau’r Theori ac Ymarfer. Bydd rhan fawr o'r asesiad yn digwydd yn eich lleoliad gwaith, ond bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau asesiadau mewnol ac allanol sy'n astudiaethau achos wedi'u hamseru, ac arholiad ar ddiwedd y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - CBAC/City & Guilds
  • Lefel 2: Craidd
  • Lefel 2: Theori ac Ymarfer
  • Mathemateg a Saesneg

Byddwch hefyd yn ennill cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau megis:

  • Hylendid bwyd
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd disgwyl i chi ymrwymo i 5 diwrnod o astudiaeth bob wythnos, gan gynnwys y sesiynau addysgu sy'n cwmpasu elfen wybodaeth y cymhwyster yn y coleg, yn ogystal â diwrnodau/blociau lleoliad gwaith sy'n cwmpasu elfen gymhwysedd y cymhwyster.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunan-gymhelliant ac angerdd dros y diwydiant gofal yn ofynnol.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ac mae disgwyl i chi barhau â'ch astudiaethau a gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, CBAC/City & Guilds.

Byddwch hefyd yn barod i fynd i’r byd gwaith ac ennill cyflogaeth mewn rolau megis cynorthwyydd cyn-ysgol, cynorthwyydd meithrin, cynorthwyydd meithrinfa, gweithiwr gofal plant y tu allan i oriau ysgol neu gynorthwyydd Cylch Meithrin.

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs.

Mae ymrwymiad a dibynadwyedd yn hanfodol

Ble alla i astudio CBAC Gofal Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2?

CFDI0095AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr