En

Gradd Sylfaen mewn Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
10 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Safon Uwch - DD

neu

Gymhwyster BTEC Lefel 3 perthnasol a gradd Teilyngdod/Pasio neu radd Pasio/Pasio/Pasio

neu

Ddiploma Pasio Mynediad i Addysg Uwch a 45 o gredydau ar Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig.

Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, rhoddir ystyriaeth i’ch profiad gwaith a’ch profiad bywyd, felly cysylltwch â ni i drafod hyn.

Yn gryno

Gall gweithio ym maes ieuenctid a gofal cymdeithasol fod yn hynod o wobrwyol. Mae’r sector a’r gwasanaethau a’r rolau sy’n rhan ohono yn newid yn barhaus ac mae galw gynyddol ar aelodau staff i gyflenwi safonau uchel o ansawdd a gofal tosturiol ac i esblygu’n barhaus er mwyn ennill sgiliau newydd a chynnal sgiliau perthnasol.

Mae’r cymhwyster Gradd Sylfaen mewn Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol wedi cael ei ddatblygu i gynnwys y nod, y gwerthoedd a’r egwyddorion angenrheidiol ar gyfer gweithio â phobl ifanc ym maes gofal cymdeithasol yn ogystal â gweithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau.

Wedi’i lleoli yn yr Ysgol Ofal ar ein campws Crosskeys yng Nghaerffili, mae hon yn rhaglen integredig sy’n cyfuno’r cysyniadau damcaniaethol sy’n ymwneud â phobl ifanc, gofalu amdanynt a’u helpu i ofalu am eu hunain wrth weithio yn y sector gofal ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych chi’n gweithio neu hoffech chi weithio mewn amgylchedd gofal cymdeithasol

...hoffech chi wella eich cyfleoedd gyrfa a hoffech chi symud i swyddi rheolaeth ym maes gofal cymdeithasol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r athroniaeth sy’n sail i’r rhaglen yn canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd llwybrau gyrfa i ddysgwyr er mwyn eu galluogi i fodloni anghenion amrywiol y bobl ifanc a’u teuluoedd yn y cymunedau. Mae gan faes gofal cymdeithasol gyda phobl ifanc gyd-destun eang sy’n cynnwys: gwasanaethau tai a digartrefedd, gwasanaethau gofal awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd meddwl a lles, prosiectau ymgysylltu â’r gymuned, gwasanaethau caethiwed, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ymyrraeth chwaraeon ac iechyd, darpariaeth cam-drin domestig, ymyrraeth NEET, EOTAS a gwasanaethau cyfeirio disgyblion.

Byddwch chi’n datblygu ymagwedd hyblyg a myfyriol at ymarfer proffesiynol sy’n seiliedig ar yr egwyddorion a’r ethos ynghlwm â gweithio â phobl ifanc mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Byddwch chi’n datblygu dealltwriaeth uwch o swyddogaethau a rolau gwahanol sefydliadau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector a’r cyfyngiadau gwahanol yn y cyd-destun polisi presennol.

Byddwch chi’n astudio’r modiwlau canlynol: Lefel 4:

  • Cyflwyniad i Sgiliau Cyfathrebu a Chwnsela
  • Gwaith grŵp creadigol â phobl ifanc
  • Sgiliau academaidd ac ymchwil prosiect ar gyfer gweithio â phobl ifanc
  • Llencyndod a lles; adnabod a chefnogi pontio datblygiadol
  • Cyflwyniad i Addysgeg Gymdeithasol
  • Addysgeg Gymdeithasol ar gyfer Lleoliadau

Lefel 5:

  • Deall Polisi Cymdeithasol
  • Diogelu
  • Ymchwil Gymhwysol
  • Ffurfio llwyddiant: Rheoli, mesur ac ansawdd gwaith mewn lleoliad gofal cymdeithasol
  • Addysgeg Gymdeithasol ar gyfer Lleoliadau 2

Mae cyflogadwyedd yn rhan allweddol o’r cwrs a bydd yn cynnwys 400 awr ar leoliad gwaith a fydd yn rhoi profiad i chi o faes gofal cymdeithasol a phobl ifanc ar draws Lefel 4 a Lefel 5. Gall lleoliadau gwaith gael eu cynnal mewn ystod o leoliadau gofal cymdeithasol sy’n eich galluogi chi i ymdrwytho eich hun ym maes ymarfer gofal cymdeithasol.

Mae gan gymhwyster Gradd Sylfaen mewn Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ystod o ddulliau asesu sydd wedi’u dylunio i’ch cefnogi chi wrth ddatblygu a meithrin sgiliau cyfathrebu ardderchog a rhuglder digidol. Mae’r dulliau’n cynnwys:

  • Cyflwyniadau
  • Posteri
  • Adroddiadau
  • Papurau trosolwg
  • Cyfraniadau ar wefannau
  • Traethodau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Caiff ceisiadau ar gyfer y cwrs eu hystyried ar sail unigol. Mae’r gofynion mynediad arferol wedi’u nodi isod, fodd bynnag, os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn, rhoddir ystyriaeth i’ch profiad gwaith a’ch profiad bywyd, felly cysylltwch â ni i drafod hyn.

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol a gallai cymwysterau eraill nad ydynt wedi’u rhestru hefyd fod yn dderbyniol.

 

Cynnig Safon Uwch arferol – DD

Cynnig BTEC arferol - BTEC Lefel 3 perthnasol a gradd Teilyngdod/Pasio neu radd Pasio/Pasio/Pasio.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd ac eithrio unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc.

Cynnig Mynediad i Addysg Uwch arferol – Diploma Pasio a 45 o gredydau ar Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

O Radd Sylfaen i Radd Anrhydedd:

  • BA (Anrh) mewn gweithio gyda Phlant a Theuluoedd*
  • BSc (Anrh) mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol a Chyfiawnder Ieuenctid
  • BA (Anrh) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

*yn amodol ar ail-ddilysu

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cwrs hwn dalu £45.00 ar gyfer gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol?

CFDG0070AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 10 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr