En

AAT Uned Prosesau Treth i Fusnesau Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£415.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
13 Mai 2024

Hyd

Hyd
5 wythnos

Yn gryno

Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.

Yr uned yr ydych yn ei phrynu yma yw uned Prosesau Treth i Fusnesau y Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg.

Bydd yr uned hon yn archwilio prosesau treth sy'n dylanwadu ar weithrediadau beunyddiol busnesau ac mae wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau myfyrwyr o ran deall, paratoi a chyflwyno ffurflenni Treth ar Werth (TAW) i Gyllid a Thollau EM (CThEM). Bydd yr uned yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gadw busnesau, cyflogwyr a chleientiaid yn cydymffurfio â deddfau ac arferion sy'n berthnasol i TAW a chyflogres. Byddwch yn dysgu am ddeddfwriaeth a phwysigrwydd cynnal eu gwybodaeth dechnegol drwy fonitro diweddariadau.

Ar gyfer TAW, bydd myfyrwyr yn deall y rheolau cofrestru a dadgofrestru, gan gynnwys cofrestru ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), a'r rheolau sy'n ymwneud â chynlluniau TAW arbenigol. Byddwch yn gallu adnabod gwahanol fathau o gyflenwadau a chyfrifo TAW yn gywir, gan ddeall pwysigrwydd y rheolau sy'n ymwneud ag adfer TAW mewnbwn a'r sancsiynau a'r cosbau am anghywirdebau, hepgoriadau a methu â gwneud cyflwyniadau a thaliadau o fewn yr amserlenni cywir. Byddwch yn gallu gwirio cywirdeb y cyfrifiadau, anfonebau a phwyntiau treth, a byddwch yn dysgu am gywiro gwallau. Wrth ddysgu am gynnwys y ffurflen TAW, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso rheolau arbennig pan fydd nwyddau a gwasanaethau yn cael eu mewnforio a'u hallforio o'r DU a'r Undeb Ewropeaidd (UE), a sut i echdynnu'r data priodol i gwblhau ffurflenni TAW.

O ran y gyflogres, byddwch yn deall y prosesau ar gyfer busnesau sy'n ymwneud â chyfrifo tâl a didyniadau a chynnwys dogfennau ac adroddiadau a gynhyrchir ar feddalwedd, ynghyd â'r amserlenni ar gyfer cyflwyno a thalu.

Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).

Mae'r cwrs hwn yn symud ymlaen o Ddiploma Sylfaen Lefel 2 AAT a bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau pellach i symud ymlaen o fewn y maes cyfrifeg.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg

… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg

… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.

Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:

  • Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
  • Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
  • Technegau Cyfrifo Rheolaeth - Byddwch yn dod i ddeall y pwrpas a’r defnydd o gyfrifo rheolaeth ac yn dysgu'r technegau costio a thaenlen sy’n angenrheidiol ar gyfer sefydliadau, yn ogystal â'r egwyddorion y tu ôl i reoli arian parod.
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.

Trwy ymgweisio yma, rydych yn prynu modiwl Prosesau Treth ar gyfer Busnes.

Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

Gofynion Mynediad

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg

neu

  • Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ar:

Ddydd Llun 9yb tan 5yh (rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Neu

Ddydd Llun 5yh tan 6yh a dydd Mawrth 6yh tan 9yh (yn rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.

Costau eraill:

Llyfrau tua £30 y modiwl

Cofrestriad AAT (yn daladwy i AAT) £240

Ble alla i astudio AAT Uned Prosesau Treth i Fusnesau Lefel 3?

NCDI0066DD
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 13 Mai 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr