City & Guilds City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Mewnosodiad Trydanol (CRAIDD) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
17:30
Amser Gorffen
21:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Os ydych chi’n gweithio neu eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu, mae hwn yn gyfle delfrydol i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am osodiadau trydanol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un sy’n diddori mewn gyrfa yn gosod gwaith trydan mewn anheddau domestig.Cynnwys y cwrs
Bydd angen i chi fod eisiau gweithio yn y maes adeiladu ac ymrwymo i fynychu yn ogystal â pharchu eraill a gallu ysgogi eich hun. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.Mae’r cwrs ei hun yn cynnwys:
• Iechyd a diogelwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
• Egwyddorion gwyddoniaeth drydanol
• Technoleg gosodiadau trydanol
• Gosod unedau caeedig a systemau weirio
• Deall sut i gyfathrebu gydag eraill o fewn y maes peirianneg gwasanaethau adeiladu
Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein, cyn y dyfernir tystysgrif Gosodiadau Trydanol Diploma Lefel 2 i chi.Gofynion Mynediad
Er mwyn cofrestru ar y cwrs hwn bydd arnoch chi angen profiad diwydiannol a llwyddo mewn cyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallai’r cwrs hwn arwain at Ddiploma Lefel 3 mewn Gosodiadau Trydanol, Prentisiaeth neu gyflogaeth.Mae angen i chi fod yn awyddus i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae parch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc a hunan-ysgogiad yn rhinweddau hanfodol y disgwyliwn eu gweld yn ein dysgwyr.
EEDI0365AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr