Yn gryno
P'un a ydych chi'n berchen ar gath neu gi neu eisiau gweithio gyda nhw, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r holl agweddau ar gymorth cyntaf sylfaenol y mae angen i chi eu gwybod.
…perchnogion anifeiliaid anwes
…unrhyw un sy'n berchen ar lety cathod, llety cwn neu sefydliad sy'n ailgartrefu anifeiliaid
…pobl sy'n gwneud unrhyw fath o waith gyda chathod a chwn.
Cwrs dwy awr yw hwn sy'n ymdrin â phob agwedd ar Gymorth Cyntaf sylfaenol ar gyfer cathod a chwn, gan gynnwys paratoi pecyn cymorth cyntaf priodol, gosod rhwymynnau, delio ag esgyrn wedi torri, gwenwyno, CPR brys a chywasgu’r frest ac amrywiaeth o wybodaeth Cymorth Cyntaf angenrheidiol arall.
Disgwylir i chi gymryd rhan mewn senarios ymarfer, ac ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael tystysgrif Coleg Gwent.
Nid oes yna unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, dim ond diddordeb brwd mewn cathod a chwn.
The cost of this course is £20.
Mae’r cwrs yn cael ei ddysgu gan un o'n nyrsys milfeddygol cymwys.