En

Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£20.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
5 wythnos

Yn gryno

Awydd bod yn greadigol gyda phrosiect uwchgylchu?

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu hanfodion paentio dodrefn er mwyn i chi allu ymgolli yn eich prosiectau uwchgylchu yn hyderus a rhoi bywyd newydd i’ch dodrefn. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer dechreuwyr llwyr, er mwyn i chi feithrin dealltwriaeth well o hanfodion uwchgylchu dodrefn.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…Unrhyw un sydd eisiau bod yn greadigol gydag uwchgylchu dodrefn.

…Y rhai sydd eisiau gwella eu sgiliau creadigol wrth uwchgylchu dodrefn.

….Pobl sydd eisiau dysgu sgiliau a thechnegau newydd sy’n eu galluogi i roi bywyd newydd i ddodrefn.

….Unigolion sydd eisiau helpu’r amgylchedd drwy achub dodrefn a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs rhan amser hwn, byddwch yn cwmpasu sawl agwedd ar uwchgylchu dodrefn, megis:

  • Paratoi, glanhau, a sandio
  • Paentio a thechnegau paentio gwahanol
  • Staenio a chwyro
  • Trosglwyddo a decoupage

Byddwch hefyd yn cwmpasu’r defnydd o amrywiaeth o offer a chynhyrchion i gwblhau eich prosiectau uwchgylchu, gan gynnwys peiriannau sandio, brwshys paent, paent, gludiau, cwyr, staeniau a farnisiau clir a lliw.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd angen i chi fynychu’n rheolaidd a bod yn frwdfrydig am uwchgylchu dodrefn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.

Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:

  • Tecstilau
  • Cerameg
  • Gwneud Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Argraffu 3D
  • Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
  • Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
  • Y Celfyddydau Perfformio
  • Canu ar gyfer Pleser
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
  • Gwneud Gemwaith
  • Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
  • Lansio Menter/Busnes Creadigol
Ble alla i astudio Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft?

CPCE2911AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr