En

City & Guilds Tystysgrif mewn Patisserie Cyffredinol a Melysion Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£595.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
11:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:30

Hyd

Hyd
30 wythnos

Yn gryno

Mae Tystysgrif Lefel 3 City and Guilds mewn Patisserie a Melysion Cyffredinol wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes arbenigol patisserie, melysion a gwaith siocled fel cogydd crwst neu ‘patissier’.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Ydych yn gweithio neu am weithio fel cogydd patisserie yn y sector

...Ydych yn greadigol ac mae gennych lygad am fanylion

...Ydych chi'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cegin

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Cynhyrchion toes a chytew
  • Cynhyrchu petits fours
  • Cynhyrchu cynhyrchion past
  • Cynhyrchu pwdinau poethion, oerion ac wedi rhewi
  • Cynhyrchu bisgedi, cacen a sbyngau
  • Cynhyrchu darnau arddangos ac eitemau addurnol
  • Dulliau cynhyrchu siocled a thueddiadau byd-eang
  • Technegau tymheru siocled
  • Gwneud gwahanol fathau o siocled gan gynnwys clôr y moch, bariau siocled a llenwadau
  • Technegau brwsio aer

Byddwch yn cael eich asesu drwy:

    • Bapurau ateb byr
    • Aseiniadau
    • Asesiadau ymarferol

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y hwn, bydd angen rhywfaint o brofiad o weithio mewn amgylchedd cegin.

Rhaid i chi fod yn greadigol, yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn angerddol dros goginio.

Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i ymgeisio:

  • Lefel 1 neu 2 mewn Coginio Proffesiynol
  • Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu gwisg coleg am gost o rhwng £23.00 - £55.00 a bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi ar eich diwrnod cyntaf.

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu ac maent yn amodol ar newid.

Cynhelir y cwrs ar ddydd Llun o 12yp tan 7.30yh gydag oriau ychwanegol ar gyfer asesu, ond bydd y rhain yn cael eu trafod a'u trefnu gyda'ch tiwtor.

Ble alla i astudio City & Guilds Tystysgrif mewn Patisserie Cyffredinol a Melysion Lefel 3?

CPCE2803AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr