En

Cyflwyniad i Dylino'r Corff

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£35.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
29 Hydref 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
09:30 - 16:00

Yn gryno

Bydd y cwrs undydd hwn yn cyflwyno’r theori y tu ôl i dylino’r corff a’r technegau ar gyfer tylino’r corff gan diwtor profiadol iawn.
Gall y cwrs hwn eich helpu i symud ymlaen i gyrsiau eraill neu gall ein staff proffesiynol helpu i'ch cefnogi a'ch arwain yn eich gyrfa ar ôl cwblhau.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

 

...Unrhyw un sydd eisiau addasu eu gyrfa, dysgu sgiliau tylino'r corff newydd neu newid gyrfa'n llwyr. Mae'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr neu rieni sy'n gweithio

...Therapyddion ac Ymarferwyr Harddwch sy’n ystyried datblygu eu set sgiliau ym maes Tylino Corff Holistaidd

...Adweithegwyr sy’n ystyried ymuno â chwrs Therapïau Cyflenwol yn Coleg Gwent ym mis Medi.

...Dysgwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cwrs HND mewn Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd) yn Coleg Gwent ym mis Medi.

...Darpar-fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio cwrs rhan-amser mewn Tylino’r Corff yn Coleg Gwent

...Nyrsys ac Ymarferwyr Gofal Iechyd sydd â diddordeb mewn ehangu eu sail wybodaeth a’u dealltwriaeth am Dylino’r Corff

... Unrhyw un sydd eisiau addasu eu gyrfa, dysgu sgiliau tylino'r corff newydd neu newid gyrfa'n llwyr. Mae'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr neu rieni sy'n gweithio

Cynnwys y cwrs

Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n:

  • Trafod gweithdrefnau ymgynghoriad â chleient, cydsyniad a chynllunio triniaeth
  • Adnabod esgyrn a chyhyrau (ac anatomeg a ffisioleg gysylltiedig)
  • Darparu techneg tylino’r cefn syml
  • Nodi gwrtharwyddion, gwrth-weithredu ac osgoi croeshalogi

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn ond mae diddordeb yn y pwnc yn hanfodol. Byddwch chi’n gweithio gydag eraill yn yr ystafell ddosbarth a bydd disgwyl i chi fod yn fodel ar gyfer triniaeth hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dewch i'n cyflwyniad i gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ac unrhyw rai pellach y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
Ble alla i astudio Cyflwyniad i Dylino'r Corff?

CPCE2609AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 29 Hydref 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr