En

Agored Cymru Astudiaethau Lletygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
Entry

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion ffurfiol

Yn gryno

Byddwch yn dysgu mwy ynghylch y diwydiant lletygarwch ac arlwyo a'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisiau cyflwyniad i'r diwydiant arlwyo.
... Rydych eisiau cyfuno astudio yn y dosbarth a gwaith ymarferol.
... Rydych yn gyfeillgar, yn brydlon ac yn frwd ynghylch arlwyo.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dilyn unedau gan gynnwys gwasanaethau cwsmer, bwyta'n iach, paratoi a choginio bwyd sylfaenol, gweini bwyd a diod, defnyddio offer y gegin a diogelwch bwyd.

Byddwch hefyd yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, lle byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.

Byddwch yn cael eich asesu drwy weithgareddau ac asesiadau ymarferol, yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth, a byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Lefel Mynediad 3 - Arlwyo Lefel 1
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Astudiaethau tiwtorial
  • Saesneg a Mathemateg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs, ond mae'n rhaid ichi ddangos brwdfrydedd am y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Byddwch angen bod yn berson sy'n gallu cymell ei hun, gweithio'n galed, yn rhifog ac â phersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Coginio Proffesiynol Lefel 1 neu Ddiploma Lefel 1 mewn Teithio a Thwristiaeth

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn ichi brynu offer llawn a fydd yn costio tua £200.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Agored Cymru Astudiaethau Lletygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad?

CFCE2379AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr