En

City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Os ydych yn gweithio mewn manwerthu, gwerthu neu unrhyw swydd ble rydych yn delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid, dyma'r cwrs i chi! Bydd yn rhoi'r cyfle i chi ennill y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn gwasanaeth cwsmer.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd sy'n wynebu cwsmeriaid ac yn delio ag amrywiaeth o bobl mewn unrhyw ddiwydiant.

Cynnwys y cwrs

Nod y cwrs yw adeiladu ar arfer dda mewn gwasanaeth cwsmer a'i chydnabod o fewn unrhyw ddiwydiant, gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o gyfathrebu a darparu gwasanaeth yn effeithiol. Byddwch yn ymdrin â phynciau megis:

  • Adnabod cwsmeriaid, eu priodoleddau a disgwyliadau
  • Bod yn ymwybodol o wasanaethau a chynnyrch eich sefydliad
  • Arddangos sut i ddilyn arferion a gweithdrefnau eich sefydliad
  • Deall sut i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith a ddefnyddir mewn gwasanaeth cwsmer a dilyn rheolau o fewn eich gwaith
  Ar gyfartaledd, mae'r cymhwyster yn cymryd hyd at 6 mis ac nid oes unrhyw ddyddiadau cychwyn penodol - gallwch gychwyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Bydd yr aseswr yn edrych ar eich gwaith ac yn asesu eich perfformiad yn erbyn safonau cenedlaethol, yn ogystal â defnyddio tystion, neu gofnod neu ddyddiadur o'ch gwaith. Bydd aseswyr hefyd yn gofyn cwestiynau (ar lafar neu'n ysgrifenedig) i sicrhau bod gennych yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth hanfodol i gwblhau eich amrywiol dasgau.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Ble alla i astudio City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Gwasanaeth Cwsmer Lefel 2?

COCE1344AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr