En

Ymwybyddiaeth Codi a Chario

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
12:00

Hyd

Hyd
09:00 - 12:00

Yn gryno

Hyd yn oed os nad ydych yn codi pethau trwm, mae dysgu am godi a chario diogel yn hanfodol i atal damweiniau ac anafiadau. Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i ddysgu’r technegau codi cywir, cynnal asesiadau risg codi a chario syml a gwella iechyd a diogelwch. Gellir hefyd deilwra’r cwrs i gwrdd â gwahanol ofynion busnes ac amgylcheddau gwaith.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…pob gweithiwr, gan gynnwys goruchwylwyr rheng flaen, heb unrhyw hyfforddiant codi a chario ffurfiol

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hanner-diwrnod hwn yn gwella eich gwybodaeth am godi a chario ac yn eich cynorthwyo i:

  • Nodi’r peryglon cyffredin sy’n debygol o fod yn bresennol yn y gweithle
  • Defnyddio technegau codi cywir (codi cinetig)
  • Cynnal asesiadau risg codi a chario syml
  • Gwerthfawrogi deddfwriaeth berthnasol - HASWA 1974, Rheoliadau Codi a Chario 1992. Gweld sut gallai eich gweithredoedd beryglu eich hun, eich cydweithwyr neu bobl sy’n pasio trwy’r gweithle

 

Er bod hwn yn gwrs nas asesir, bydd angen i chi ymgymryd â thechnegau codi, nodi peryglon, cynnig datrysiadau a chymryd rhan mewn cwis iechyd a diogelwch. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif mynychu Coleg Gwent.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl y cwrs, gallwch symud ymlaen i amryw o gyrsiau achrededig.

Ble alla i astudio Ymwybyddiaeth Codi a Chario?

NCCE0001AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr