Serameg - Cyflwyniad i Gymhwyso Arwyneb

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£120.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
14 Ionawr 2026
Dydd Mercher
Amser Dechrau
15:00
Amser Gorffen
17:30
Hyd
5 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes yna ofynion mynediad penodol.
Yn gryno
Cwrs hwyl a chreadigol yw hwn sydd yn cynnig cyfle i chi archwilio ystod o dechnegau taenu ac addurno.
Byddwch yn cynllunio, addurno a chreu ystod o deils a phlatiau gan ddefnyddio trosglwyddiadau slip, argraffu sgrin, trosglwyddiadau papur reis, sgraffito a mishima, slipiau dail ac argraffiadau mono.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rhywun sydd â diddordeb brwd mewn serameg ac sydd am ddysgu technegau taenu
... Dysgwr hollol newydd neu un sydd ar lefel ganolradd
... Rhywun sydd â rhywfaint o brofiad ac sydd am ehangu ei set sgiliau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bob wythnos, cewch gyfle i ehangu eich profiad o daenu wrth ymarfer serameg.
Gweler ein cyrsiau eraill ar gyfer adeiladu â llaw, taflu, mowldio gwasg a cherflunio.
Byddwch yn meithrin eich sgiliau drwy arddangosiadau a hyfforddiant.
Gan gwblhau'r cwrs hwn byddwch wedi dysgu ystod o sgiliau y gellir eu datblygu ac ychwanegu atynt. Byddwch hefyd yn cael casgliad o deils a phlatiau ar gyfer eich portffolio y gallwch ddod â nhw adref â chi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir yr holl offer sydd eu hangen ar gyfer y cwrs hwn.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3159BC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 14 Ionawr 2026
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr