En

BTEC Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol – Busnes, Gwasanaeth Cwsmer a TGCh Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am feysydd galwedigaethol gwahanol yn hanfodol.

Yn gryno

Mae ein Cyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol wedi eu dylunio i’ch cyflwyno i faes astudiaeth sydd o ddiddordeb i chi a’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn ansicr beth i’w wneud neu beth i arbenigo ynddo
... Ydych eisiau profi mwy nag un maes galwedigaethol
... Ydych eisiau cael profiad gwych o fywyd coleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs yma yna roi ystod o gyfleoedd dilyniant i chi gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau ar y lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!

Cewch gyfle i brofi mwy nag un maes galwedigaethol a datblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy drwy gwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos beth allwch ei wneud a’r hyn rydych wedi ei ddysgu. Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ac asesiadau ymarferol.

Mae’r unedau craidd yr un fath ar draws ein holl gyrsiau Astudiaethau Galwedigaethol sy’n eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes rydych wedi ei ddewis. Os byddwch am newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo'r unedau sydd wedi eu hastudio ar y cwrs i’ch cwrs nesaf os oes angen.

Bydd yr unedau craidd yn cynnwys:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun cynnydd
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc

Gall yr unedau Busnes, TGCh, Teithio a Thwristiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys:

  • Datblygu Gwybodaeth Ddigidol gan Ddefnyddio TG
  • Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol
  • Creu taenlen i Ddatrys Problemau
  • Creu Gwefan
  • Trefnu Cyfarfod
  • Brandio Cynnyrch
  • Cyflwyno Syniad Busnes
  • Cyfrannu tuag at gynnal Digwyddiad
  • Cofnodi Incwm a Gwariant
  • Cyfathrebu gyda Chwsmeriaid
  • Cymryd rhan mewn profion ffitrwydd
  • Ymateb i Ddigwyddiad
  • Cynllunio ac Arwain Taith
  • Cyfrannu at eich Cymuned
  • Archwilio Atyniadau Lleol i Ymwelwyr
  • Archwilio Teithio a Thwristiaeth yn y DU
  • Darparu Gwasanaeth Cwsmer mewn Lletygarwch a Thwristiaeth

Pa gymwysterau y byddwch yn eu cael  

  • BTEC Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
  • Gweithgareddau
  • Mathemateg a Saesneg  (os na fu i chi gael gradd C neu uwch yn y pynciau yma ar lefel TGAU)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Does dim lefel mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs. Er hynny, mae’n hanfodol bod gennych ddiddordeb dysgu am y meysydd galwedigaethol gwahanol. Bydd angen i chi fod yn barod i weithio ac yn fodlon rhoi cynnig ar bethau newydd. Bydd yna ddisgwyliad eich bod yn ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg a fydd yn eich galluogi i wella eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae mynychu pob sesiwn a bod yn brydlon yn orfodol ar gyfer y cwrs yma.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Gallwch barhau gyda’ch astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o'ch dewis
  • Gallwch fynd ymlaen i brentisiaeth
  • Gallwch gael swydd mewn maes rydych wedi ei ddewis

Gwybodaeth Ychwanegol

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol – Busnes, Gwasanaeth Cwsmer a TGCh Lefel 1?

PFBD0047AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr