En

UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu (Actio ar gyfer Llwyfan a Sgrin) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • O leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf

neu

  • Gymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol gan ennill Gradd Teilyngdod a chymwysterau TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn ymarferol dros ben ac mae wedi’i arwain gan ddarlithwyr ac athrawon cyswllt a hyfforddwyd yn broffesiynol. Diben y cwrs yw datblygu’r sgiliau actio ar gyfer y llwyfan, y sgrin, radio a throsleisio. Byddwch chi’n cwblhau’r cwrs gan feddu ar ystod o ddeunydd cymhwyso sy’n addas ar gyfer astudiaethau Addysg Bellach neu astudiaethau conservatoire yn ogystal â sgiliau academaidd ac ymchwil perthnasol ar safon Lefel 3.

Fel tîm y cwrs, rydym wedi ymrwymo i bob dysgwr a’i ddilyniant i astudiaethau addysg bellach o’i ddewis a’i baratoi i lywio’r diwydiant hynod gystadleuol hwn. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau allgyrsiol yn ogystal â gwibdeithiau tramor a gwibdeithiau ar draws y Deyrnas Unedig heb ei hail ac mae rhaglen fywiog ac amrywiol eisoes yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych chi’n symud o gwrs lefel TGAU neu o gwrs Lefel 2 perthnasol

...rydych chi’n mwynhau actio i’r camera, actio ar y llwyfan, ysgrifennu a dyfeisio sgriptiau, perfformio llais a radio neu wylio theatr fyw a sioeau cerdd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r aseiniadau yn seiliedig ar ymarfer a bydd y gwaith ysgrifenedig yn sail i’r sgiliau sy’n cael eu datblygu fel myfyriwr y celfyddydau perfformio. Bydd ymchwilio i bynciau ac ymarferwyr presennol a hanesyddol yn helpu i ffurfio eich perfformiadau a ddyfeisiwyd a’ch perfformiadau a gyfarwyddwyd.

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ystod o berfformiadau yn ystod y flwyddyn megis:

  • Dramâu
  • Dangosiadau ffilmiau
  • Darnau a ddyfeisiwyd
  • Ymsonau
  • Ystod o ddigwyddiadau allgyrsiol gan gwmnïau perfformio

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys theatr bwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns ac ardal ymarfer. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwibdeithiau i wylio perfformiadau, cymryd rhan mewn gweithdai a gwrando ar siaradwyr yn rheolaidd. Caiff y cwrs hwn ei asesu’n barhaus trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiadau a phortffolios gwaith. Ar gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:

  • Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol gan ennill Gradd Teilyngdod a chymwysterau TGAU, gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformio a pharodrwydd i ymarfer y tu allan i amseroedd y Coleg yn hanfodol. Bydd angen ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol ynghyd â dangos parch at eraill, brwdfrydedd am y pwnc, hunan-gymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd llwyddo i gwblhau Blwyddyn 1 o’r Diploma sy’n werth 90 credyd yn galluogi dysgwyr i symud i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig cyflawn.

Ar ôl hynny, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Cyrsiau Lefel 4 HND a gradd mewn Drama neu Theatr Gerdd
  • Cyflogaeth fel perfformiwr neu dechnegydd
Ble alla i astudio UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu (Actio ar gyfer Llwyfan a Sgrin) Lefel 3?

CFBE0008AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr