BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 a TGAU Mathemateg gradd B.
Yn gryno
Mae’r cymhwyster un flwyddyn hwn, wedi’i ddylunio i’ch galluogi i ddatblygu’r uwch sgiliau sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i’r ail flwyddyn ar gyfer Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC (cyfwerth â thair Lefel A), sy’n galluogi astudio prifysgol, neu brentisiaeth yn Lefel 4 neu uwch, neu gyflogaeth ar lefel dechnegol neu broffesiynol o fewn y diwydiant peirianneg.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych gymwysterau neu brofiad blaenorol yn y sector hwn
... Ydych eisiau datblygu gwybodaeth fanwl
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn astudio unedau fel:
-
Uned 1: Egwyddorion peirianneg, yn cwmpasu mathemateg, egwyddorion mecanyddol a thrydanol
-
Uned 2: Cyflwyno prosesau peirianneg yn ddiogel fel tîm
-
Uned 3: Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg
-
Uned 4: Egwyddorion masnachol ac ansawdd cymhwysol mewn peirianneg
-
Uned 10: Dylunio trwy gymorth cyfrifiadur mewn peirianneg
-
Uned 25: Ymddygiad mecanyddol defnyddiau metelaidd
- Uned 41: Gweithgynhyrchu prosesau peiriannu eilaidd
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
• BTEC Lefel 3 Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol
• Gweithgareddau Sgiliau
• Mathemateg a Saesneg
• Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru, byddwch angen:
- o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg gradd B, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C a Gwyddoniaeth gradd C
neu
- gymhwyster perthnasol Diploma Lefel 2 ar Radd Teilyngdod a TGAU Mathemateg gradd B a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (Mecanyddol) yn yr ail flwyddyn; yna ymhellach i HNC Peirianneg yn Coleg Gwent neu astudiaeth addysg uwch arall mewn prifysgol, neu brentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r holl gostau’n cael eu hadolygu a gallant newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0014AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr