En

BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Gwyddoniaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys pwnc Gwyddoniaeth a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, dyma'r cwrs i chi. Mae'r cwrs Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn ymdrin â'r tair gwyddor, gan roi gwybodaeth wyddonol arloesol a chyfredol i chi. Bydd yn eich cyflwyno i weithio yn y sector neu eich paratoi tuag at astudiaethau pellach.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwyddoniaeth

...Rydych eisiau datblygu dealltwriaeth bellach

...Rydych eisiau arddull dysgu ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â gwyddoniaeth yn y gweithle, swydd y technegydd neu ymchwilydd gwyddonol. Byddwch yn astudio wyth uned orfodol, a bydd dwy o'r rheiny yn cynnwys arholiadau:

  • Egwyddorion gwyddoniaeth (yn cael ei arholi)
  • Cemeg a'r ddaear
  • Egni a'r bydysawd
  • Bioleg a'r amgylchedd
  • Cymhwyso sylweddau cemegol
  • Cymhwyso'r gwyddorau ffisegol
  • Cymhwyso iechyd mewn gwyddoniaeth
  • Sgiliau gwyddonol (yn cael ei arholi)

Mae'r cyfuniad yma yn sicrhau eich bod yn ymdrin â phwyntiau allweddol mewn bioleg, cemeg a ffiseg, ynghyd â dealltwriaeth o fyd gwaith galwedigaethau sy'n ymwneud â gwyddoniaeth.

Mae'r cysyniadau allweddol hyn yn ddatblygiad pellach yn yr unedau arbenigol dewisol ac yn drosglwyddadwy i sectorau cyflogedig fel iechyd, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig a'r diwydiant maetheg. Mae'r unedau hyn yn cynnwys:

  • Y corff byw
  • Ymchwilio safle trosedd
  • Canfod a dadansoddi cemegol
  • Archwilio ein bydysawd

Ar gyfer cyrsiau lefel uwch, mae hefyd disgwyl ichi ail sefyll TGAU Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg os nad oes gennych radd C yn barod.

Byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys pwnc gwyddonol a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Mae angen ichi fod â diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a'r ysfa i ddatblygu eich sgiliau ymarferol a dadansoddol, ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Lefel 3) neu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Astudiaethau Iechyd (Lefel 3).

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2?

NFBD0012AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr