City & Guilds Diploma mewn Gofal Anifeiliaid Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:
- Naill ai lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)
- Neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol (yn cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg)
Yn gryno
O gwn i adar, gecoaid i dsintsilas, a defaid i fulod.. os ydych yn caru anifeiliaid, Coleg Gwent yw’r lle i chi!
Mae’r cwrs llawn amser hwn yn para blwyddyn, a byddwch yn cael y wybodaeth a’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid bach, ymlusgiaid, adar a mamaliaid. Cewch gyfle i arbenigo mewn llwybrau fferm, amaethyddol a chefn gwlad; llwybr anifeiliaid bach; neu lwybr tacluso a gofal. Felly, waeth beth yw eich diddordeb, mae llwybr ar gael ar eich cyfer chi.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Mae gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid fferm ac amaethyddiaeth, anifeiliaid bach, tacluso ac ymddygiad
... Rydych eisiau cael profiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid
... Rydych eisiau cyfuniad o astudio yn y dosbarth a gwaith ymarferol
... Rydych eisiau gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid
... Rydych yn caru anifeiliaid, yn cynnwys anifeiliaid mawr a bach!
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae hwn yn gwrs academaidd, sy’n cael ei gefnogi gan waith ymarferol rhesymol ag anifeiliaid.
Er enghraifft, byddwch yn edrych ar:
- Sgiliau ystadau
- Cynefinoedd
- Llety anifeiliaid
- Bwydo anifeiliaid
- Gofalu am anifeiliaid fferm
- Iechyd anifeiliaid
- Tacluso
- Profiad gwaith
- Ymddygiad anifeiliaid
- Gofal ceffylau
Cewch hefyd gyfle i weithio gydag offer a pheiriannau, yn cynnwys gyrru tractor ar y fferm a gwaith cynnal a chadw sylfaenol, megis ffensio ac atgyweirio gwrychoedd, ac offer tacluso, i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio gydag anifeiliaid.
Yn ystod y sesiynau ymarferol, byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ar gampws Brynbuga, lle ceir ystod o anifeiliaid o ffuredau a gwiwerod rhesog, i nadroedd a phryfed cop. Byddwch hefyd yn gweithio gyda’r defaid a’r gwartheg yn Fferm Rhadyr, a cheffylau yn y Ganolfan Geffylau ar Gampws Brynbuga.
Asesir y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig i ddangos eich cymhwystra a’ch dealltwriaeth, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I wneud cais am y cwrs hwn, byddwch angen:
- lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
- NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol wedi'i cyflawni ar radd Teilyngdod neu uwch.
Mae ymrwymiad llawn i gyfraniad a phresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, parch at anifeiliaid â'r gallu i gymell eich hun.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn yr holl sesiynau ymarferol gydag anifeiliaid a chyflwyno eich holl aseiniadau ar amser. Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cymhwyso hyd at lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid. Y cam nesaf yw Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid (gyda Gwyddoniaeth), neu gallwch chwilio am gyflogaeth yn y diwydiannau cysylltiedig, megis parlyrau tacluso, siopau anifeiliaid, practisau milfeddygol, cathdai, ffermydd a chynelau cwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyn dechrau’r cwrs a gallu gweithio gyda’r anifeiliaid byddwch angen brechiad tetanws diweddar.
Ar gyfer Iechyd a Diogelwch, byddwch hefyd angen prynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys:
- cot labordy glas tywyll
- welingtons dur trwm
- oferôls glas tywyll
- bag i gario eich PPE
Bydd yn costio oddeutu £40 i brynu’r offer, a dylid gwneud hynny cyn dechrau eich cwrs.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UFBD0004BA
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr