En

VTCT Gwobr mewn Triniaethau Microneedling Radio-amledd Lefel 5

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£265.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
06 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
2 wythnos

Yn gryno

Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 5 mewn Triniaethau Micro-lafnu yn gymhwyster esthetig harddwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 4 sydd yn 18 oed neu'n hŷn gyda'r nod o ychwanegu technegau nodwyddo uwch at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. 

Llywir y cymhwyster hwn gan gyflogwyr a safonau harddwch esthetig cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel ymarferydd micro-lafnu amledd radio hollol fasnachol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Amledd Radio ar Lefel 4.
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

Cynnwys y cwrs

Mae Micro-lafnu Amledd Radio yn weithdrefn gosmetig. Mae'n defnyddio nodwyddau mân a thonnau amledd radio i adnewyddu croen yr wyneb. Math o anaf dan reolaeth yw'r driniaeth. Mae'r difrod yn ysgogi tyfu croen newydd ac iachus, a all fod o fudd wrth ymdrin â phroblemau'r croen megis creithiau acne a chrychau.

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ymarferol wrth gario allan triniaethau adnewyddu'r croen drwy ddefnyddio technegau micro-lafnu amledd radio. Byddwch yn gwella sgiliau drwy gyflwyno ymgynghoriad trylwyr i sefydlu cyfaddasrwydd y cleient ar gyfer triniaeth ochr yn ochr â’r wybodaeth ar sut i ddyfeisio 

cynllun triniaeth arbennig sydd yn deilwredig i weddu anghenion a gofynion cleientiaid unigol. Byddwch chi'n datblygu y wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu cyngor ôl-driniaeth ac ôl-ofal, gan gynnwys unrhyw driniaethau pellach a fydd eu hangen i sicrhau fod y cleient yn derbyn holl fuddion y driniaeth a chael y canlyniadau gorau posib.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Ystyriaethau diogelwch
  • Protocolau a chanllawiau triniaeth
  • Dadansoddi technegau Micro-lafnu
  • Ymgynghoriad, cynllunio a pharatoi
  • Cymhwyso technegau Micro-lafnu

Cynhelir asesiad drwy aseiniad, arholiad ymarferol ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 5 mewn Micro-lafnu Amledd Radio.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
  • Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Amledd Radio Lefel 4 a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Noder, o 2024 ymlaen, ei fod yn ofynnol yn ôl awdurdodau lleol i chi gwblhau hyfforddiant gorfodol er 

mwyn ennill cofrestriad i ymarfer. Mae'r cwrs hyfforddi gofynnol mewn Rheoli Heintiau, sydd yn para un diwrnod, ar gael i chi yn Coleg Gwent.

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandal. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes

Gall costau triniaeth Micro-lafnu Amledd Radio amrywio rhwng £250 a £400.

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Triniaethau Microneedling Radio-amledd Lefel 5?

CPAW0631AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Tachwedd 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr