HABC Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
06 Awst 2024
Dydd Mawrth i Dydd Iau
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Hyd
3 ddiwrnod
Yn gryno
Cwrs cymorth cyntaf cynhwysfawr i unrhyw un sydd eisiau dod yn swyddog cymorth cyntaf achrededig yn y gwaith.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
… Unrhyw un sydd eisiau dod yn swyddog cymorth cyntaf achrededig yn y gwaith at ddibenion Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn, a gyflwynir dros 3 ddiwrnod, yn ymdrin ag ystod o bynciau, yn cynnwys:
- Cyfrifoldebau a dyletswyddau Swyddog Cymorth Cyntaf
- Asesu digwyddiad
- Adnabod arwyddion a symptomau anaf neu salwch
- Helpu unigolyn sy'n dioddef o effaith anaf neu salwch difrifol
- Dadebru oedolion, CPR a defnyddio diffibriliwr AED
- Anafiadau i'r cefn
- Anafiadau / ymosodiadau cemegol
- Adwaith alergaidd yn cynnwys anaffylacsis
- Ysigiadau a datgymaliadau
- Asthma
- Llosgiadau a sgaldiadau
- Trawiad ar y galon ac angina
- Anafiadau i'r pen
- Ychydig o waedu a gwaedu difrifol
Byddwch yn cael asesiad ymarferol o’ch gallu, yn ogystal bydd angen i chi ddarparu ymatebion byr i gyfres benodol o gwestiynau. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, ynghyd â cherdyn plastig maint waled yn nodi eich cymhwyster. Bydd y cymhwyster yn ddilys am dair blynedd.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
NCAW0524AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Awst 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr