Campysau yn Cau
Diweddarwyd diwethaf: 09/01/2026 16:00
Pan fydd y campws yn cau, gwiriwch y wybodaeth ynghylch eich campws chi isod.
Gwneir pob ymdrech i ddod â’r wybodaeth ddiweddaraf atoch cyn gynted ag y bydd diweddariadau ar gael, gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd.
Bydd unrhyw ddiweddariadau yn cael eu postio ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am darfu ar deithio a rhoi gwybod am absenoldeb.
Os bydd tarfu ar rai gwasanaethau trafnidiaeth, gwiriwch y diweddariadau teithio lleol am y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru.
Os yw eich taith i’r coleg yn cael ei heffeithio, gwnewch yn siwr eich bod yn caniatáu digon o amser i deithio’n ddiogel. Os bydd tarfu yn achosi i chi golli gwersi o ganlyniad, bydd eich presenoldeb yn dal i gael ei gofnodi. Cysylltwch a’r coleg cyn gynted a phosibl ar 01495 333777. Mae’r llinellau absenoldeb yn mynd drwy neges llais sydd ar gael 24/7 ac yn cael ei staffio o 8:30yb.
Mae diogelwch ein dysgwyr yn hollbwysig bob amser, a dylai dysgwyr deithio dim ond os a phryd y mae’n ddiogel i wneud hynny. Gwisgwch esgidiau synhwyrol er mwyn osgoi llithro.
Yn ystod tywydd garw ni fyddwn yn gallu ymateb i ymholiadau unigol ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd y sylwadau’n cael eu diffodd i sicrhau ein bod yn rhoi unrhyw ddiweddariadau i chi yn gyflym ac yn glir.