Cyrsiau a achredir gan Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Aberystwyth
Mae cyrsiau llawn amser Gradd Sylfaen, cyrsiau HNC a HND a achredir gan Brifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a’r BSc Astudiaethau Ceffylau atodol gyda Phrifysgol Aberystwyth yn £7,500 y flwyddyn. Bydd pob cwrs blwyddyn ychwanegol BSc a BA, a BA 3 blynedd yn costi £9,000 y flwyddyn. Nodwch, mae ffioedd cyrsiau rhan amser yn wahanol.
Cyrsiau a achredir gan Pearson
Mae gan gyrsiau a achredir gan Pearson wahanol ffioedd, yn dibynnu ar natur y cymhwyster. Os bydd eisiau mwy o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm Derbyniadau ar 01495 333777.
Rhan amser
Mae ffioedd ar gyfer cyrsiau rhan amser yn amrywio, yn dibynnu ar y rhaglen astudio (ewch i’n polisi ffioedd).
Addysgu a hyfforddi'r gweithlu
Ar gyfer 2025/26 mae’r ffioedd fesul 20 Credyd yn £945 – fel arfer, byddwch yn astudio 60 chredyd mewn blwyddyn academaidd.
Costau ychwanegol
Efallai y bydd gan eich cwrs gostau eraill, a allai fod yn orfodol neu’n ddewisol. Bydd y rhain yn ychwanegol at ffioedd dysgu a rhaid ichi eu talu er mwyn gallu cymryd rhan yn llwyr yn eich rhaglen astudio, a’i chwblhau. Gall costau o’r fath fod ar gyfer cyfarpar, tripiau, lleoliadau a gwiriadau DBS. Mae gan bob rhaglen gostau ychwanegol gwahanol a nodir y rhain yng ngwybodaeth y cyrsiau ar ein gwefan.