En
Joining the Zero Racism Wales pledge

Ymuno ag addewid Dim Hiliaeth Cymru


24 Hydref 2022

Fel coleg, rydym yn falch o gefnogi’r gwaith o symud Cymru ymlaen at ddod yn genedl fwy cynhwysol. Rydym yn sefyll yn erbyn hiliaeth gyda dull dim goddefgarwch, drwy ymuno â channoedd o sefydliadau yng Nghymru a llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru.

Rydym wedi hyrwyddo derbyniad a chynhwysiant ers peth amser o fewn ein cymuned, yn hyrwyddo’r buddion o fod â phoblogaeth amrywiol o fyfyrwyr a staff. Felly, rydym mewn sefyllfa dda i lywio dyfodol ein cymdeithas, drwy addysgu pobl o bob oed am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dyma pam ein bod yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae pawb – myfyrwyr a staff – yn gallu bod yn nhw eu hunain, a theimlo’n ddiogel, ac wedi’u gwerthfawrogi a’u cynnwys; yn adlewyrchu gweledigaeth Race Council Cymru o genedl heb hiliaeth.

Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru am Gymru wrth-hiliaeth erbyn 2030, rydym bellach yn sefyll mewn undod â 1500 o wystlwyr eraill i wrthod hiliaeth o bob math. Er mwyn hyrwyddo dim goddefgarwch i hiliaeth yn y gweithle a’r ystafell ddosbarth, rydym yn rhoi’r ymrwymiad hwn ar waith bob dydd, drwy:

  • Sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal i bawb.
  • Dim goddef gwahaniaethu, aflonyddu, annhegwch, cam-drin, trais na rhagfarn hiliol yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Sefyll mewn undod, a dod ynghyd i wrthod hiliaeth, o unrhyw fath.
  • Hyrwyddo cysylltiadau hil da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.
  • Hyrwyddo cyfleoedd teg a chyfartal ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol.

zero racism wales pledge

Rydym eisoes yn cymryd camau cadarnhaol i ddod yn goleg mwy cynhwysol, ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymysg staff a myfyrwyr. Drwy gyflwyno Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant pwrpasol, rydym yn cymryd camau pwysig er mwyn ysgogi newid. Mae rhai o’n mentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant allweddol yn cynnwys:

  • Cyflwyno rhwydweithiau cyswllt ar gyfer staff ac annog grwpiau cymorth myfyrwyr.
  • Cynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth i bob aelod o staff erbyn 2023.
  • Dathlu dyddiau, wythnosau a misoedd ymwybyddiaeth allweddol.
  • Cyflwyno sgyrsiau a hyfforddiant i staff gan fynd i’r afael â phynciau amrywiol er mwyn cyflawni cymhwysedd diwylliannol.
  • Cyflwyno bathodynnau rhagenw ar gyfer staff a myfyrwyr.
  • Arwain ymgyrch ‘Chi yw Chi’, blwyddyn o hyd, i rannu straeon, dathlu ein gilydd, a datblygu pecyn cymorth iaith gynhwysol i gynnig geirfa barchus.

Fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon fis Hydref, rydym hefyd wedi gwahodd siaradwr gwadd, Nelly Adam o Race Council Cymru, i gyflwyno sgwrs i fyfyrwyr. Bydd Nelly’n trafod camau y gallwn eu cymryd er mwyn symud ymlaen wrth i ni ymgorffori gwrth-hiliaeth yn y coleg, yn ogystal â thynnu sylw at enghreifftiau o’r hyn allwn ni ei wneud fel unigolion i ysgogi newid gwirioneddol er mwyn cyflawni cymdeithas sy’n fwy gwrth-hiliol.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ewch i www.coleggwent.ac.uk/amrywiaeth a dysgwch fwy am ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru yn zeroracismwales.co.uk.