En

Wythnos Addysg Oedolion 2018 - Stori Alice


20 Mehefin 2018

Wythnos Addysg Oedolion 2018 - Stori Alice

Dyma Alice Roberts, 38, o Gwmbrân. Penderfynodd Alice ail hyfforddi fel triniwr gwallt yng Ngholeg Gwent saith mlynedd yn ôl.
“Roeddwn i’n gwybod fy mod yn rhy hen i gael prentisiaeth wedi’i hariannu gan y Llywodraeth, felly cyflwynais gais i astudio rhan amser yn wreiddiol. Sylweddolais yn fy nghyfweliad nad oedd astudio rhan amser am weithio i mi, gan y byddai’n llawn well gennyf gael gymaint o ymarfer â phosib oherwydd fy mod yn astudio cwrs galwedigaethol. Dyna’r penderfyniad gorau ydw i wedi ei wneud erioed”, medd Alice.
Unwaith cwblhaodd Alice ei hyfforddiant trin gwallt, roedd cwsmeriaid Alice yn gofyn iddi o hyd os oedd hi’n bosib iddi drin eu hewinedd a’u haeliau hefyd.
“Roedd yn rhaid i mi ddweud nad oeddwn wedi cymhwyso ond dechreuais feddwl y byddai bod yn driniwr gwallt ac yn therapydd harddwch yn wych! Felly fe astudiais gwrsLefel 2 mewn Harddwch ar gampws Pont-y-pŵl”, meddai Alice.
Ar ben ennill dau gymhwyster, fe enillodd Alice Roberts dwy wobr eleni yng ngwobrau Rhagoriaeth Myfyrwyr Coleg Gwent gan gynnwys Myfyriwr y Flwyddyn Dermalogica.
Y tu allan i’r coleg, mae Alice yn mwynhau gwirfoddoli a rhoi i’w chymuned. Beth yw’r geiriau doeth sydd gan Alice ar gyfer oedolion sy’n dymuno astudio mewn coleg?

“Rhowch gynnig arni! Mae dychwelyd i addysg fel oedolyn neu fyfyriwr hŷn yn beth dychrynllyd ond mae yna weithdai sgiliau astudio ar gael a gallwch ofyn am gymorth gan eich tiwtoriaid.
“Hyd yn oed os ydych yn dewis peidio astudio llawn amser, rhowch gynnig ar gwrs rhan amser neu ddosbarth nos neu unrhyw beth! Mae’r cyfeillgarwch a’r cwmni yn werthfawr ac mae’r sgiliau ydych yn datblygu yn eich cynorthwyo i dyfu fel person.”
Neges Cyfryngau Cymdeithasol 1: “Mae dychwelyd i addysg fel oedolyn neu fyfyriwr hŷn yn beth dychrynllyd ond mae yna weithdai sgiliau astudio ar gael a gallwch ofyn am gymorth gan eich tiwtoriaid.” #WythnosAddysgOedolion