En
Two carers with elderly man

Gofalu am ein gofalwyr ifanc drwy achrediad y QSCS


18 Tachwedd 2020

Oeddech chi’n gwybod bod oedolion ifanc sy’n ofalwyr deirgwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant na phobl ifanc eraill, a phum gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg? Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd i chi! Yn Coleg Gwent, mae gennym rwydwaith o gymorth i’ch helpu i gyflawni eich breuddwydion a’ch dyheadau o dan ein hachrediad QSCS.

Mae tua 30,000 o ofalwyr ifanc dan 25 oed yng Nghymru (Gofal Cymdeithasol Cymru) ac mae’r ffaith eu bod yn treulio cymaint o amser yn gofalu yn cael effaith ar eu haddysg, eu hiechyd corfforol a’u llesiant emosiynol. Deallwn y gall fod yn anodd i ddysgwyr sydd â rolau gofalu reoli eu hastudiaethau coleg ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu, ond ni ddylai hyn eu dal yn ôl rhag gallu cwblhau eu cymwysterau. Felly, ym mis Hydref 2020, cawsom statws achrededig y Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) am y tair blynedd nesaf, gan gydnabod ein bod yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi ein gofalwyr ifanc yn Coleg Gwent.

Beth mae achrediad y QSCS yn ei olygu i ofalwyr ifanc yn Coleg Gwent?

Quality Standard Care Support and Careers Federation logosDatblygwyd QSCS y Ffederasiwn Gofalwyr gan ofalwyr i ddarparu achrediad a hyfforddiant i sefydliadau fel ni sydd am gefnogi gofalwyr ifanc gymaint â phosibl. Mae’n helpu i godi ymwybyddiaeth, dileu rhai o’r rhwystrau i ofalwyr, datblygu polisïau a gweithdrefnau priodol, a gwella mynediad at gymorth, drwy ddangos arfer da wrth gefnogi gofalwyr yn y gymuned ehangach.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Ffederasiwn y Gofalwyr i wella’r cymorth y mae gofalwyr ifanc yn ei gael mewn colegau addysg bellach. Felly, drwy ddeall anghenion ein gofalwyr ifanc, rhoi rhwydwaith o gymorth ar waith a datblygu partneriaethau gwaith effeithiol gyda gwasanaethau lleol, bydd achrediad y QSCS yn rhoi cyfleoedd da i’n gofalwyr oedolion ifanc elwa o ddysgu a lleihau eu baich gofalu, fel y gallant gyflawni eu potensial a mwynhau eu hastudiaethau yn Coleg Gwent.

Pam mae achrediad y QSCS mor bwysig i ni a’n gofalwyr ifanc?

Red glitter heartCredwn fod gan ofalwyr ifanc yr hawl i ddysgu, mwynhau a chyflawni eu potensial, ac mae cael achrediad QSCS wedi ein gwneud yn ymwybodol o’r rhwystrau posibl y gallant eu hwynebu, gan ein galluogi i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau priodol i’w cefnogi. Mae’n grymuso ein staff i fod yn fwy gwybodus, gyda mynediad at adnoddau, gwybodaeth a hyfforddiant ychwanegol i adnabod dysgwyr sydd â rolau gofalu yn gynnar yn y flwyddyn academaidd, ac i greu gwe o gymorth rhagweithiol a hygyrch o’u cwmpas.

Oherwydd hyn, rydym eisoes wedi adnabod canran uwch o ofalwyr ifanc yn gynnar yn ystod ymrestru eleni o gymharu â’r llynedd, a fydd yn cael cymorth i gyflawni eu potensial. Byddant yn cael eu hamgylchynu gan rwydwaith o gymorth i wella eu llesiant a manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd dysgu, gan eu helpu i gwblhau eu hastudiaethau gyda ni yn llwyddiannus.

Felly, os ydych yn ofalwr ifanc yn Coleg Gwent, siaradwch â’ch Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr am gymorth pellach, neu os ydych yn ystyried astudio gyda ni a bod angen cyngor arnoch ar sut y gallwch gyflawni hyn ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau gofalu, e-bostiwch Helo@coleggwent.ac.uk nawr.