En
Skills Comp 2024

Coleg Gwent yn cipio’r fedal aur mewn cystadleuaeth sgiliau genedlaethol


18 Mawrth 2024

Rhoddodd dysgwyr o Coleg Gwent berfformiad syfrdanol yn ystod rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni (14eg Mawrth 2024) — gan gipio cyfanswm o 18 o fedalau, gan gynnwys 7 medal aur. 

Wedi’i gynnal yn y Ganolfan Gynadledda Rhyngwladol yng Nghasnewydd, nod y digwyddiad blynyddol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru a chynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod eang o sectorau.  

Denodd cystadleuaeth eleni y nifer fwyaf erioed o ddiddordeb a chofrestriadau wrth i dros 1,100 o gyfranogwyr gymryd rhan ar draws 64 o gystadlaethau.  

Roedd Coleg Gwent yn un o bum coleg o dde Cymru a oedd yn bresennol, wedi’i gynrychioli gan ei dîm o 250 o diwtoriaid, dysgwyr a phrentisiaid ar draws sectorau gan gynnwys technoleg fodurol, gwaith coed, trin gwallt a hyfforddiant personol.  

Gan ennill 7 medal aur, 5 medal arian a chwe medal efydd, mae’r cyflawniadau yn adlewyrchu ystod eang o gyrsiau’r coleg a’i ymrwymiad i feithrin sgiliau ei ddysgwyr trwy gyfleoedd busnes a sgiliau go iawn.  

Skills Comp 2024

Enillodd Mozhedeh Zarrinderakht, sy’n astusio ar gampws Casnewydd y coleg, fedal aur ar gyfer ei hymdrechion yn y categori Trin Gwallt. Dywedodd: “Cymerais ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru y llynedd ond, yn anffodus, nid oeddwn yn llwyddiannus. Dyma pam roeddwn mor awyddus i gymryd rhan eto eleni. Nid oeddwn yn disgwyl ennill y fedal aur ond rwy’n hynod o falch a hapus fy mod i wedi’i chipio!  

“Fel myfyriwr hŷn, mae ennill y wobr hon wedi fy helpu i sylweddoli nid oes ots beth yw’ch oedran chi, gallwch chi bob amser ddysgu sgiliau newydd neu ddechrau gyrfa newydd. I unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan y flwyddyn nesaf, peidiwch â rhoi’r gorau iddi a gwnewch yr hyn rydych chi’n ei charu.” 

Hefyd, ychwanegodd Damiano Argentieri, a enillodd fedal aur yn y categori Hyfforddwr Personol: “Rwyf bob amser yn herio fy hun felly pan glywais am y gystadleuaeth, roeddwn yn dymuno cyflwyno cais ar unwaith. Dywedais wrth fy hun, “Rwy’n mynd i’w hennill” a gwnes i! 

“Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn golygu fy mod yn gallu rhoi’r holl bethau roeddwn yn eu dysgu fel rhan o’m cwrs ar waith. Mae lefel fy hyder wedi codi oherwydd hyn a, bellach, gallaf ddychmygu fy nyfodol fel hyfforddwr personol cymwysedig.” 

Dywedodd Richard Wheeler, Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau yn Coleg Gwent: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i gydnabod fel digwyddiad o fri ar gyfer sgiliau galwedigaethol yng Nghymru gan gynnwys myfyrwyr sy’n rhagori ar draws disgyblaethau amrywiol, o Ailorffen Cerbydau i Gelf Gemau 3D. 

“Gan adlewyrchu’r ystod o gyrsiau rydym yn falch o’u cyflwyno yn Coleg Gwent, mae’r digwyddiad yn cydnabod gwerth ein cyrsiau ac ansawdd ein haddysgu wrth hefyd ddathlu cyflawniadau gwych ein dysgwyr. Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad.”  

Mae rhestr lawn o fyfyrwyr Coleg Gwent a enillodd fedalau ar gael yma.