En
Hospitality

Rysáit ar gyfer llwyddiant dysgu


16 Medi 2019

Rysáit ar gyfer llwyddiant dysgu

Rydym yn falch iawn o fod yn lansio Academi Fforwm y Cogyddion gyntaf yng Nghymru gyda’n myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn cael cynnig mynediad heb ei ail i arbenigwyr coginio mwyaf ysbrydoledig y DU. Bydd ein partneriaeth newydd sbon gyda’r Academi Fforwm y Cogyddion enwog yn dechrau mis hwn a bydd yn cynnig mynediad i gogyddion mwyaf profiadol y wlad, y cyfle i weithio mewn gwestai a bwytai o fri a phrofiad o weithio mewn ceginau mewn bwytai prysur.

Dywedodd Gary Handley, Cyfarwyddwr y Gyfadran Gofal a Chymunedau: “Bydd Academi Fforwm y Cogyddion yn rhoi mynediad heb ei ail i gyflogwyr lleol a’r cogyddion gorau, gan gyfoethogi cwricwlwm a phrofiad gwaith ein myfyrwyr. Bydd yr Academi yn paratoi myfyrwyr i weithio, gan ddangos iddynt yn union beth sy’n ofynnol ganddynt wrth iddynt wneud eu ffordd i mewn i ddiwydiant. Rydym wrth ein bodd o allu cynnig Academi Fforwm y Cogyddion i’n myfyrwyr ac rydym yn siŵr y byddant yn elwa’n fawr o’r cynllun dysgu sy’n cael ei gynnig iddynt.”

Mynediad wythnosol i gogyddion/arbenigwyr lletygarwch nodedig o ledled Cymru a thu hwnt. Lleoliadau gwaith mewn gwestai a bwytai mawr eu bri Sesiynau holi ac ateb agored gydag arweinwyr y diwydiant Ymweliadau addysgol i fwytai a chyflenwyr Profiad gwaith mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol Dywedodd Catherine Farinha, Sylfaenydd Fforwm y Cogyddion: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn lansio pedwaredd Academi Fforwm y Cogyddion yn genedlaethol gyda Choleg Gwent, fel rhan o’n strategaeth gyflwyno. Mae’r cysyniad o Academi Fforwm y Cogyddion yn gweithio’n dda iawn i bawb sy’n cymryd rhan ac yn sicrhau’r genhedlaeth nesaf o gogyddion a gweithwyr lletygarwch proffesiynol ar gyfer y diwydiant.” Os oes gennych ddiddordeb mewn lletygarwch neu goginio, edrychwch ar ein cyrsiau lletygarwch ac arlwyo a gwnewch gais heddiw.