En
Rydym yn dathlu Diwrnod VQ 2019

Rydym yn dathlu Diwrnod VQ 2019


15 Mai 2019

Rydym yn dathlu Diwrnod VQ 2019

Mae llwyddiant a manteision dysgu galwedigaethol, technegol ac ymarferol yn cael eu dathlu. I ddathlu’r diwrnod hwn, rydym ni’n rhannu llwyddiannau rhai o’n myfyrwyr a’u taith yn y coleg hyd yn hyn.

Mae Elen Davies, myfyriwr gofal plant Lefel 3, wrth ei bodd â’r annibyniaeth o dreulio tri diwrnod yr wythnos ar leoliad gwaith mewn ysgol. Dewisodd y ferch 18 oed, sydd eisiau bod yn athro ysgol gynradd yng Nghymru, y cwrs ar ôl gadael y chweched dosbarth, am ei bod ddim yn mwynhau ei phynciau Safon Uwch. “Rwyf wrth fy modd â’r teimlad o annibyniaeth. Roedd treulio tri diwrnod yr wythnos ar leoliad fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Gynradd Brynbuga yn brofiad braf iawn ac fe wnaeth i mi garu fy nghwrs. Mae’r llwyth gwaith yn llawer ysgafnach nag aseiniadau diddiwedd. “Mae dod i’r coleg wedi fy nghael i allan o fy man cyffyrddus, doeddwn i ddim yn adnabod neb pan ddes i yma ond rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau – mae pawb mor gyfeillgar. Mae’r athrawon yn rhoi llawer o gefnogaeth ac yn fy helpu gyda fy ngwaith – nid yw unrhyw gwestiwn yn gwestiwn dwl.” Aeth ymlaen i ddweud bod y ddau ddiwrnod blasu yn dda iawn a’u bod wedi’i helpu i setlo yn y coleg.

Nod Lee Ryder, myfyriwr Ffabrigo a Weldio Lefel 2, yw dilyn ôl traed ei dad-cu a dod yn weldiwr pibellau sy’n teithio o amgylch y byd. Mae’n gobeithio cael prentisiaeth ar ôl cwblhau ei gwrs Lefel 2 a pharhau i astudio un diwrnod yr wythnos yn y coleg a’r gweddill yn y gweithle. “Mae’r cyfleusterau yma yn wych – mae yna bopeth rydych eu hangen gyda’r gwahanol ardaloedd ac offer. Rwy’n mwynhau’r ochr weldio yn fawr iawn, yn arbennig paratoi’r metel. “Roeddwn ychydig yn bryderus ar y dechrau a phan welais bobl yn weldio, ond unwaith y dechreuais yn y gweithdy roeddwn i’n iawn. Fy nghyngor i bobl eraill yw – cadwch lygad ar yr hyn yr ydych eisiau ei wneud a chanolbwyntiwch ar eich nodau. “Ymhen pum mlynedd hoffwn fod fel fy nhad-cu – weldiwr pibellau yn teithio o gwmpas y byd yn weldio – mae’n rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud ers i mi fod yn ifanc. “Mae’r tâl yn dda a byddwn yn hoffi cael fy musnes fy hun yn y dyfodol.