En
John Ride To The Rugby

Llwyddiant! Dyma eich cyfle olaf i roi i ymgyrch codi arian John dros Tŷ Hafan.


27 Chwefror 2024

Llwyddiant! Dyma eich cyfle olaf i roi i ymgyrch codi arian John dros Tŷ Hafan. 

Yn Coleg Gwent, rydym yn ymrwymedig i roi yn ôl i’n cymuned. Bob blwyddyn mae staff a dysgwyr yn pleidleisio dros eu dewis o elusen, ac eleni sianelwn ein hymdrechion codi arian i gefnogi elusen Gymraeg flaenllaw Tŷ Hafan. 

Mae’r coleg wedi bod gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i godi arian trwy ddigwyddiadau megis Diwrnod Gwisgo Gwyrdd. 

Mae un person yn arbennig wedi dechrau ar daith uchelgeisiol, sef yr her anhygoel o feicio 217 o filltiroedd o Abertawe i Ddilyn, gan gyrraedd mewn amser ar gyfer gêm Iwerddon v Cymru Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. 

Gadawodd John o Abertawe ddydd Mawrth 20 Chwefror cyn beicio i ben Sir Benfro, cyn croesi’r Môr Iwerydd a beicio ar hyd arfordir gorllewin Iwerddon, gan gyrraedd yn Nulyn ddydd Gwener 23 Chwefror. 

Mae John wedi codi dros £3,000 i Tŷ Hafan. 

Dyma grynodeb o’i weithgareddau codi arian: 

  • Shafio ei wallt yn ein salon Blwm
  • ️24 diwrnod o faddonau Iâ – cymerodd John ran mewn 24 diwrnod o faddonau iâ drwy gydol mis Rhagfyr, gan sianeli cryfder a dyfalbarhad y teuluoedd y mae Tŷ Hafan yn eu cefnogi.
  • Casgliadau bwced – Roedd John yn Tesco Risga drwy gydol mis Ionawr i helpu codi arian ar gyfer Tŷ Hafan.
  • Noson Cyrri a Raffl.
  • Cwyro coesau – cafodd John ei goesau wedi’u cwyro yn ein salon Blŵm.

John Ty Hafan

Dyma beth sydd gan John i’w ddweud: “Roeddwn i’n edrych ymlaen at y digwyddiad hwn gan mai hwn oedd fy her gyntaf dros sawl ddiwrnod i mi ymgymryd â hi ar gyfer elusen. Rydw i am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth drwy gydol fy ymdrechion codi arian!” 

Wrth iddo nesáu at Ddulyn, mae amser o hyd i chi ddangos eich cefnogaeth i John trwy roi arian ar ei dudalen Just Giving.   

Eleni, ein nod fel coleg yw codi’r swm uchelgeisiol o £10,000 i Tŷ Hafan ac rydym eisoes wedi cyrraedd hanner ffordd gan gasglu £6,000 hyd yma. Diolch i John a phawb arall sydd wedi ein helpu ni.  

Gallai eich rhoddion helpu Tŷ Hafan i dalu am y canlynol:   

  • Gallai £10 dalu am ddeunyddiau i frodyr a chwiorydd galarus ddefnyddio sesiynau hanfodol therapi chwarae   
  • Gallai £25 dalu am awr o gymorth emosiynol gan weithiwr cymorth i deuluoedd gan helpu teuluoedd i ymdopi â’r heriau dyddiol y maent yn eu hwynebu  
  • Gallai £30 dalu am un awr o chwarae therapiwtig allgymorth gan annog teuluoedd i ryngweithio a mwynhau eu hamser gyda’i gilydd  
  • Gallai £40 dalu am sesiwn galar i deuluoedd gan roi cymorth a gofal parhaus am y cyfnod y mae ei angen arnynt  
  • Gallai £50 dalu am awr o therapi cerddoriaeth gan roi cyfle i frodyr a chwiorydd fynegi eu hunain ac ymgysylltu â’u hemosiynau  

  Cymerwch ran   

Rydyn ni’n cefnogi aelodau staff a hoffai godi arian ar gyfer ein helusen y flwyddyn. Edrychwch ar y digwyddiadau isod.  

 28 Ebrill – Rasys 10 Cilomedr/Hanner Marathon/Marathon Casnewydd  
 

17 Mawrth – Her Cerdded trwy Dân  
 

8 Mehefin – Antur 3 Chopa Cymru   
 

Gallwch ddysgu rhagor am hosbis Tŷ Hafan ar: www.tyhafan.org