En

Coleg Gwent yn ymuno â Mosg Casnewydd i ddathlu Ramadan


17 Ebrill 2023

Yma yn Coleg Gwent, rydym yn goleg cynhwysol ac amrywiol, sy’n benderfynol o hyrwyddo amgylchedd croesawgar lle gall pobl o bob cefndir ddysgu a gweithio gyda’i gilydd.

Rydym yn dathlu Ramadan y mis hwn, sef y mis sanctaidd Islamaidd o ymprydio a gweddïo. Dethlir yr ŵyl ledled y byd gyda gweddïau cymunedol, hunan-fyfyrio, a rhoi i elusennau.

I gefnogi ein staff a dysgwyr Mwslimaidd sy’n ymprydio ar gyfer Ramadan, ymwelodd dros 10 aelod o staff Coleg Gwent â Mosg Jamia Canol Casnewydd i gael taith dywys o amgylch y mosg a rhannu pryd o fwyd iftar. Iftar yw’r pryd nos a gymerir yn aml gan y gymuned i dorri cyfnod ymprydio’r bobl Fwslimaidd sy’n cymryd rhan yn Ramadan.

Rhoddodd y coleg gyfraniad o £500 i’r mosg i helpu i gyflenwi bwyd, losin a ffrwythau ar gyfer aelodau a phreswylwyr y mosg, sy’n cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Daw’r nawdd fel rhan o ymrwymiad y Coleg i fentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n ffocysu ar y gymuned.

Dywedodd Nkechi Allen Dawson, Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Llesiant: “Mae Ramadan yn gyfnod o roi, haelioni, tosturi, a goddefgarwch. Rydym yn falch o wybod bod ein partneriaeth â Mosg Jamia Canol Casnewydd wedi helpu’r gymuned i dorri’r ympryd gyda phryd da o fwyd, tra hefyd yn darparu’r gwasanaethau hanfodol mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu hangen, a’u cynorthwyo i adeiladu dyfodol newydd yma yng Nghymru.”

“Mae cydnabod Ramadan a’n cymuned Fwslimaidd yma yn Coleg Gwent yn agwedd hanfodol ar ein gwaith wrth hyrwyddo derbyniad crefyddol. Roedd ymweld â Mosg Jamia Canol Casnewydd yn brofiad goleuedig a bythgofiadwy a chroesawodd y mosg ein staff gyda breichiau agored.”

Dywedodd Sarwat Hamid, Darlithydd mewn Busnes: “Mae Ramadhan yn seiliedig ar amynedd, haelioni a charedigrwydd. Mae’n gyfle i fyfyrio ar yr hyn y gallaf ei wneud i fod yn berson gwell. Mae’n fis lle gallaf geisio cysylltu yn ysbrydol ac yn emosiynol gyda’m crefydd, gallaf gynnig edifeirwch ac aros yn ddiymhongar yn barhaus.”

Mae hyrwyddo cynwysoldeb yn ystod Ramadan a thu hwnt yn mynnu ymrwymiad parhaus i amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hyn yn golygu gweithio’n weithredol i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy’n dathlu ac yn parchu gwahaniaeth. Trwy wneud hyn, gall myfyrwyr o bob cefndir deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd o fywyd coleg.

Eisiau ymuno yn y dathliadau? Ymunwch â ni i ddymuno eich cydweithwyr, ffrindiau, a chymdogion “Ramadan Hapus” neu “Ramadan Mubarak!”