En
Part time guide out now

Canllaw rhan amser 19/20 ar gael nawr


21 Mai 2019

Canllaw rhan amser 19/20 ar gael nawr

Dewch i ddysgu yn Coleg Gwent – Cymerwch olwg ar ein canllaw rhan amser newydd.

Os hoffech ddysgu sgil newydd, troi diddordeb yn grefft neu’n ysu am newid gyrfa, mae gennym gwrs ar eich cyfer chi.

Drwy astudio’n rhan amser yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghrymu, byddwch yn gallu cydbwyso eich dysgu a’ch bywyd bob dydd.

Gyda bron i 200 o gyrsiau rhan amser, wedi eu creu i fod yn gyfleus, yn cael eu cynnal yn ystod y bore, prynhawn a nosweithiau yn ein pump o ganolfannau dysgu sydd wedi eu lleoli mewn pum bwrdeistref – byddwch yn siŵr o ddod o hyd i’r cwrs perffaith.

O beirianneg a gofal iechyd i gyfrifiadura a thechnoleg ddigidol, mae amrywiaeth eang o gyrsiau dysgu hyblyg i ddewis ohonynt.

Lawrlwythwch gopi o’n canllaw rhan amser heddiw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein tîm recriwtio myfyrwyr ar 01495 333777.

Rydym yn ychwanegu cyrsiau newydd o hyd, felly cofiwch ddod yn ôl i gael sbec.