En
Danielle Hall and Rick Raybould

Ein dysgwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd i'ch cadw chi'n actif


14 Mai 2020

Darganfyddwch sut y gallwch chi gadw'n heini gartref gydag ychydig o help gan ein myfyrwyr chwaraeon!

Wrth i aros gartref ddod yn ‘normal newydd’, mae llawer ohonom yn chwilio am ffyrdd i ymarfer corff a chadw’n heini yn ein cartrefi er mwyn rhoi hwb i’n llesiant corfforol a meddyliol. Mae ceisio cynnal ffordd o fyw actif ac iach yn ystod sefyllfa’r Coronafeirws yn bwysig tu hwnt, ond mae cymell eich hun i wneud ymarfer corff gartref yn anodd, hyd yn oed os ydych wedi hen arfer â mynd i’r gampfa neu ymuno â dosbarth ymarfer corff. Ond mae AOC Sport wedi datblygu ffordd arloesol i hwyluso’r broses i ni, ac mae ein cyn-fyfyrwyr Hyfforddiant Personol yn arwain y ffordd, gan gynnal sesiynau ymarfer corff wythnosol ar Facebook.

Cenhadaeth AOC Sport yw cadw pob myfyriwr yn actif, felly maen nhw’n cynnal y sesiynau hyn ar-lein yn ystod y pandemig i’ch annog chi i symud yn eich cartref. Mae eu hamserlen wythnosol yn amrywio o ioga a dosbarthiadau ymarfer corff dwysedd isel, i ddawns egniol, ymarfer cylchol a ffitrwydd bocsio. Ceir amrywiaeth eang o sesiynau sy’n addas ar gyfer galluoedd, amserlenni a diddordebau gwahanol, ac i gymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dilyn AOC Sport ar Facebook.

Ymhlith y pedwar hyfforddwr personol, wedi eu dethol o bob cwr o’r DU ac Iwerddon i ddarparu’r sesiynau ymarfer corff 30 munud hyn, mae dau o’n cyn-fyfyrwyr Hyfforddiant Personol Coleg Gwent – Danielle Hall a Rick Raybould.

Cwblhaodd Danielle ei chwrs Lefel 3 Hyfforddiant Personol yn ein Campws Brynbuga yn 2019, ac eleni,  bu iddi gwblhau ei chwrs Tylino Chwaraeon ac Atgyfeirio Ymarfer Corff gyda ni hefyd. Bydd hi’n cynnig sesiynau ioga ar-lein, tra bydd Ricky, a gwblhaoddd ei gymhwyster Hyfforddiant Personol gyda ni yn 2017 ac aeth ymlaen i gwblhau Tylino Chwaraeon yn ein Campws Brynbuga yn 2018, yn cynnal sesiynau Bwtcamp yn y Cartref. Bu i’r ddau fyfyriwr dawnus gyrraedd rownd derfynol cystadlaethau Worldskillls yn ystod eu cyfnod yn Coleg Gwent, gyda Danielle yn ennill medal aur a Ricky yn derbyn cymeradwyaeth sylweddol.

Gyda gobaith, bydd y gyfres am ddim hon o fideos a sesiynau byw iechyd, llesiant a ffitrwydd, yn helpu i gadw myfyrwyr y genedl yn actif yn ystod y cyfnod hwn, ac rydym yn hynod falch o sut mae’r sector addysg uwch wedi addasu i’r sefyllfa bresennol wrth sicrhau bod llesiant yn cael blaenoriaeth.  Beth am roi cynnig arni!

Dysgwch sut i ddilyn llwybrau Danielle a Ricky drwy astudio Hyfforddiant Personol yn Coleg Gwent – mae ceisiadau ar agor ar gyfer Medi 2020!