En

Myfyrwyr Cymraeg UG yn ymweld â Gogledd Cymru


5 Ebrill 2018

Myfyrwyr Cymraeg UG yn ymweld â Gogledd Cymru

Teithiodd myfyrwyr Cymraeg UGColeg Gwent i ogledd orllewin Cymru i ymweld â lleoliadau ac ardaloedd sy’n berthnasol i’w gwaith cwrs a’u harholiadau. Ymwelodd y myfyrwyr ag Aberystwyth, Caernarfon, Llanfair PG, Bangor a Thrawsfynydd yn ystod y daith deuddydd. Ar y diwrnod cyntaf, cafodd y myfyrwyr daith dywysedig o amgylch Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyflwyniad i hanes pentref Tryweryn, a darlith ar y ffilm ‘Patagonia’ ym Mhrifysgol Bangor. Yna, teithiodd y myfyrwyr i Lanfairpwll, a chael cyfle i sefyll o dan arwydd y pentref gyda’r enw hiraf yn Ewrop. Gyda’r nos, aeth y myfyrwyr i Galeri Caernarfon i weld cynhyrchiad o’r sioe gerdd Gymraeg “Ker-Is” sy’n adrodd y stori y tu ôl i chwedl enwog o Lydaw. Ar y diwrnod olaf, aeth y myfyrwyr i weld y gronfa ddŵr ddadleuol a adeiladwyd ar safle Tryweryn, cyn teithio i Drawsfynydd i ymweld â chartref y bardd Cymreig Hedd Wyn. Cafodd y myfyrwyr hefyd ymddangosiad syrpréis gan nai Hedd Wyn. Dywedodd Carrie-Ann, myfyriwr Lefel AS Cymraeg: “Roedd y trip yn ddiddorol iawn, a dysgais lawer mwy am ddiwylliant Cymru. Mae wedi bod o fudd mawr i fy ngwaith Cymraeg gan fy mod wedi gallu defnyddio fy ngwybodaeth newydd yn fy ngwaith. Fe wnes i fwynhau’r trip gan fy mod wedi cael cyfle i feithrin cyfeillgarwch newydd a dysgu mwy am y wlad rwy’n byw ynddi.” Mae’r trip hwn sy’n cael ei gynnal yn flynyddol yn agored i bob myfyriwr Cymraeg lefel UG. Beth am ddod i un o’n nosweithiau agored? Cewch gyfle i siarad â thiwtoriaid cwrs, i edrych o gwmpas cyfleusterau’r campws a phenderfynu gyda’ch gilydd pa gwrs yw’r dewis gorau i chi. Dewch i archwilio nawr. Peidiwch â cholli ein digwyddiad agored ar ddydd Mercher 16 Mai 5.00-7.30pm neu gallwch ddysgu mwy am gyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gwent ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk/index.php?view=article&id=288&lan=cym&csrf=6hVb6OvpNE Ymwelodd ein myfyrwyr UG â Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch a gweddill Gogledd Orllewin Cymru ar daith ddiwylliannol deuddydd. Darllenwch fwy yma.