En

Myfyriwr o Goleg Gwent yn rasio mewn ras 10K i gasglu arian at Whizz-Kidz


25 Ebrill 2019

Myfyriwr o Goleg Gwent yn rasio mewn ras 10K i gasglu arian at Whizz-Kidz

Mae Ayesha Khan, yn dioddef o Spina Bifida a Hydroceffalws, sy’n golygu ei bod wedi’i pharlysu o’r canol i lawr, yn rasio yn ras 10K ABP Casnewydd yn ei chadair olwyn ar 29ain Ebrill, i gasglu arian at Whizz-Kidz ac i godi ymwybyddiaeth o waith yr elusen. Mae Whizz-Kidz yn elusen sy’n trawsnewid bywydau pobl ifanc anabl yn y DU drwy ddarparu offer symudedd hanfodol a’r sgiliau maen nhw eu hangen i fyw bywyd egnïol. Dywedodd Ayesha Khan: “Rwyf wedi dewis rasio yn y ras hon er budd Whizz-Kidz am ei fod yn sefydliad sy’n agos at fy nghalon, heb yr anogaeth a’r gefnogaeth rwyf wedi cael gan yr elusen, fyddwn i ddim lle ydw i heddiw”. Dechreuodd cysylltiad Ayesha â Whizz-Kidz yn 2010 pan ddaeth yn llysgennad i’w clwb yng Nghaerdydd, aeth hi ymlaen wedyn i ddod yn arweinydd ifanc ac yn Gynrychiolydd Cymru ar fwrdd Kidz. Mae hi wedi gwneud llawer o ffrindiau ar Gampws Crosskeys, Coleg Gwent, lle mae hi ar hyn o bryd yn astudio cwrs Busnes a Gweinyddu. Ei tharged codi arian yw £250, os hoffech gael rhagor wybodaeth neu gefnogi Ayesha, ewch i’w thudalen Just Giving. Dywedodd Thomas Corrigan, Pennaeth Ysgol Busnes a Chwaraeon, Campws Crosskeys: “Mae Ayesha yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac yn esiampl wych o amrywiaeth a chynwysoldeb yng Ngholeg Gwent. Yn ystod eu hamser gyda ni, mae dysgwyr yn gweld eu hyder yn datblygu, ac nid yw Ayesha yn eithriad. Mae Ayesha yn dangos ei phenderfyniad i lwyddo yn y dosbarth a thu allan ac mae pawb yma’n dymuno’r gorau iddi gyda’i her godi arian ddiweddaraf.” I ddysgu mwy am Goleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk